Caerdydd i gael 4G cyn diwedd 2012
- Cyhoeddwyd
Bydd gwasanaeth diwifr 4G yn cael ei lansio yng Nghaerdydd cyn diwedd y flwyddyn.
Bydd Everything Everywhere, fydd yn cael ei adnabod fel EE, yn parhau i ehangu'r flwyddyn nesa' a'r nod yw darparu 4G i 98% o'r DU erbyn 2014.
Mae'r dechnoleg wrthi'n cael ei brofi yng Nghaerdydd, Llundain, Bryste a Birmingham ar hyn o bryd.
Mae cystadleuwyr wedi mynegi pryderon fod EE wedi cael mantais annheg trwy gael lansio eu gwasanaeth nhw gynta'.
Bydd cyfanswm o 16 o ddinasoedd yn derbyn y gwasanaeth i ddechrau - Belfast, Derby, Caeredin, Glasgow, Hull, Leeds, Lerpwl, Manceinion, Nottingham, Newcastle, Sheffield a Southampton.
Bydd technoleg 4G yn golygu bod y lleoliadau hyn yn elwa o fynediad cyflymach i'r rhwydwaith, hyd yn oed o du mewn i adeiladau.
Gallai ardaloedd eraill, mwy gwledig, elwa yn fawr o'r dechnoleg gan fod cyflymder band eang yn araf iawn mewn rhai mannau.
'Cymaint mwy'
Bydd EE yn cynnig nifer o ffonau i'w defnyddio gyda'r gwasanaeth - gan ddechrau gyda'r Samsung Galaxy S III LTE, HTC One XL, Ascend P1 LTE gan Huawei, a'r Nokia Lumia 820 a 920.
Yn ogystal, bydd modd defnyddio dyfeisiau eraill i gysylltu 芒'r rhwydwaith 4G gyda chyfrifiadur neu liniadur.
"Bydd 4G yn gysylltiad mwy dibynadwy," meddai prif weithredwr EE, Olaf Swantee.
"Pan welwch chi ei fod yn gallu gwneud cymaint mwy na'r rhwydwaith presennol, bydd pobl yn awyddus iawn i'w gael."
Ychwanegodd y byddai 4G yn cynyddu'r galw am ddata gan olygu y byddai'n rhaid adnewyddu rhwydweithiau.
"Fe all ein rhwydweithiau ymdopi nawr," meddai, "ond does dim sicrwydd yn y dyfodol."
Enillodd EE ganiat芒d i lansio'r gwasanaethau 4G yn dilyn penderfyniad Ofcom ym mis Tachwedd 2011 y bydden nhw'n cael defnyddio rhan o'u sbectrwm radio presennol.
Mae cystadleuwyr yn cael eu gorfodi i oedi cyn lansio eu gwasanaethau 4G nhw am nad oes ganddynt sbectrwm sb芒r i'w ddefnyddio.
Bydd pob darparwr yn cael cyfle i brynu sbectrwm i gynnal 4G yn 2013, pan fydd Ofcom yn cynnal ocsiwn i rannu'r amleddau radio sydd wedi'u clustnodi ar gyfer y gwasanaethau hyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012