大象传媒

Dadorchuddio plac i gofio'r Ysgol Gymraeg gyntaf

  • Cyhoeddwyd
Plac i nosi safle'r ysgol Gymraeg gyntafFfynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sefydlwyd ysgol i saith o ddisgyblion o dan arweiniad Norah Isaac

Mae plac wedi cael ei ddadorchuddio i nodi safle'r ysgol Gymraeg gyntaf.

Cafodd yr ysgol ei sefydlu gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn Aberystwyth yn 1939.

Ar 么l ymgynghori 芒'r awdurdod addysg sefydlwyd ysgol i saith o ddisgyblion o dan arweiniad Norah Isaac.

Sion Edwards, 诺yr Syr Ifan, oedd yn bresennol wrth ddadorchuddio'r plac a dywedodd David Meredith, cyn-ddisgybl, ychydig o eiriau.

'Gweledigaeth'

Dadorchuddwyd y plac yn Fflatiau'r Aelwyd, Ffordd Llanbadarn ddydd Mawrth am 2pm.

Mae'r plac wedi ei roi gan Merlin Homes, a adeiladodd y fflatiau ar y safle.

Trefnwyd y digwyddiad dadorchuddio gan Ysgol Gymraeg Aberystwyth a'r Urdd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd yr ysgol ei sefydlu gan Syr Ifan ab Owen Edwards ar Fedi 25, 1939

Roedd plant yr Ysgol Gymraeg yn canu c芒n ac wedi eu gwisgo fel faciw卯s gan i'r ysgol gael ei sefydlu yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn 么l Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd: "Mae hwn yn safle hynod bwysig yn hanesyddol gan mai yma y sefydlwyd yr Ysgol Gymraeg gyntaf yng Nghymru gan sylfaenydd yr Urdd, Syr Ifan ab Owen Edwards.

"Erbyn 1945, roedd pedair athrawes yn yr ysgol ac 81 disgybl oedd yn ddigon i berswadio Awdurdodau Addysg maes o law fod angen Ysgolion Cymraeg ledled Cymru.

"Mae'r hyn gyflawnodd Syr Ifan mewn amser cymharol fyr yn anhygoel, ac mae'n fraint gennym ni gadw ei weledigaeth yn fyw trwy'r Urdd heddiw."

'Cofeb barhaol'

Er i'r ysgol honno ddod i ben oherwydd problemau ariannol ym 1951, agorwyd ysgol Gymraeg arall ar gyfer 160 o ddisgyblion yn Aberystwyth ym 1952 o dan yr un prifathro ag Ysgol Lluest, sef Hywel O Roberts.

Ysgol Dewi Sant Llanelli (1947) oedd yr ysgol Gymraeg gyntaf a sefydlwyd gan awdurdod lleol.

Dywedodd Clive Williams, Pennaeth yr Ysgol Gymraeg: "Braf yw gweld cofeb barhaol ar safle gwreiddiol Ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru.

"Mae hanes unigryw'r ysgol yn deillio o'r fangre hon lle plannwyd yr hedyn ar gyfer Addysg Gymraeg yn 1939, hedyn sydd wedi egino a dwyn ffrwyth drwy Gymru benbaladr.

"Mae'n destun llawenydd fod yr ysgol a ddechreuodd gydag ond saith o ddisgyblion wedi tyfu bellach i dros 400."

Hefyd gan y 大象传媒

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol