Herio pedwar bardd i lunio 100 o gerddi mewn 24 awr

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru a 大象传媒

Disgrifiad o'r llun, Mae'r pedwar yn hen lawiau ar farddoni ond nid llunio cymaint o gerddi mewn amser mor gyfyng

Pencampwyr Talwrn y Beirdd 2012 oedd T卯m Y Gl锚r.

Ond ar ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth fe fydd y beirdd yn wynebu her arall.

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi herio'r pedwar, Iwan Rhys, Osian Rhys Jones, Hywel Griffiths ac Eurig Salisbury, i gyfansoddi 100 o gerddi newydd a hynny mewn 24 awr.

Mae Her 100 Cymru yn dechrau am hanner n么s ar Hydref 4 ac yn dod i ben ddiwrnod cyfan yn ddiweddarach.

Bydd modd darllen neu wrando ar y cerddi wrth iddyn nhw gael eu llunio.

Fe fyddan nhw'n cael eu hysgrifennu a'u cyhoeddi mewn ysgrifen, fideo neu glip llais drwy'r dydd ar wefan Her 100 Cerdd.

Dim rheolau

Ar y wefan mae modd i'r cyhoedd helpu'r criw drwy awgrymu testunau a them芒u.

Bydd modd eu hannog drwy gyfri trydar Llenyddiaeth Cymru gan ddefnyddio #Her100Cerdd.

Does 'na ddim rheolau o ran y cerddi, maen nhw'n gallu bod yn rhai caeth neu rydd, yn rhai hir neu'n rhai byr.

Mae'r pedwar bardd yn ymgymryd 芒'r her o bob cwr o Gymru, mae un yng Nghaerdydd, un yng Nghaernarfon a dau yng Ngheredigion.

"Fel t卯m buddugol Talwrn y Beirdd 大象传媒 Cymru eleni, mae'n bleser gan Y Gl锚r dderbyn yr her o gyfansoddi 100 o gerddi mewn 24 awr," meddai Osian Rhys Jones.

"Fel Y Gl锚r, dros nifer o flynyddoedd, rydym wedi hen arfer 芒 sialensiau talyrnau ac ymrysonau sy'n gofyn am dasgau byrfyfyr; ond bydd yr her hon yn gosod y n么d yn uwch eto.

"Does yr un ohonom wedi ceisio cynnal un cyfnod o greadigrwydd am gyfnod mor hir cyn hyn, felly bydd yn ddiddorol iawn gweld beth fydd y canlyniadau."

Pwy ydi'r Pedwar?

Iwan Rhys: Rhwng Eisteddfod yr Urdd 2007 ac Eisteddfod yr Urdd 2008 cyfansoddodd Iwan englyn bob dydd. Fe wnaeth eu cyhoeddi mewn cyfrol o'r enw Eleni Mewn Englynion. Enillodd Gadair yr Urdd yn 2001 a 2008.

Eurig Salisbury: Prifardd yr Urdd 2006. Fo hefyd ydi Bardd Plant Cymru. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf, Llyfr Glas, yn 2008.

Osian Rhys Jones: Yn wreiddiol o Ben Ll欧n, mae'n un o sefydlwyr noson farddol boblogaidd Bragdy'r Beirdd yng Nghaerdydd.

Hywel Griffiths: Prifardd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2004 a 2007. Enillodd wobr Tir na n-Og 2011 am ei nofel i blant, Dirgelwch y Bont.