大象传媒

'Tegwch': Neges Carwyn i Lafur

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones AC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Carwyn Jones yn siarad yng nghynhadledd y Blaid Lafur ym Manceinion

Nod Llywodraeth Cymru yw gwarchod pobl yma rhag cael eu rheibio gan bolis茂au'r Ceidwadwyr a'u cynghreiriaid Democrataidd Rhyddfrydol yn San Steffan, medd Prif Weinidog Cymru.

Dyna fyrdwn anerchiad Carwyn Jones yn ei araith yng Nghynhadledd y Blaid Lafur sy'n cael ei chynnal yr wythnos hon ym Manceinion.

Tegwch, cyfiawnder a chyfleoedd: dyna oedd neges Llafur yn ystod yr etholiadau i'r Cynulliad, meddai'r Prif Weinidog, a dyna'n union mae Llafur yn cyflawni fel llywodraeth.

Dywedodd fod 'na 1,500 cant o bobl ifanc ychwanegol mewn gwaith ers mis Ebrill, a'r nod yw creu 12,000 o swyddi newydd drwy raglenni cymorth economaidd.

Ychwanegodd fod yr hyn y mae'r llywodraeth glymblaid yn ei wneud yn Llundain yn dra gwahanol i bolis茂au'r llywodraeth yng Nghaerdydd.

Buddsoddi

Er bod y Canghellor, George Osborne, wedi cwtogi'r arian cyfalaf sydd ar gael i Gymru o 45%, ymrwymodd Carwyn Jones yn ei araith y byddai ei lywodraeth o yn dal i fuddsoddi.

Enghraifft o hynny meddai yw ym maes addysg a iechyd.

Yn 么l Mr Jones mae Llywodraeth Cymru yn dal i hybu gwerthoedd y Gwasanaeth Iechyd. Cafodd y Gwasanaeth Iechyd ei greu yng Nghymru ac mi fydd yn ddiogel oherwydd ei Lywodraeth o, meddai.

Yn wahanol eto i Lywodraeth y Glymblaid, penderfynodd y Llywodraeth Lafur ail farcio canlyniadau arholiadau annheg. Tegwch ar waith oedd hynny meddai Mr Jones.

Ond mae neges a pholis茂au Llafur yng Nghymru, meddai Carwyn Jones, yn berthnasol ar gyfer cael eu gweithredu gan y Blaid Lafur ar draws gwledydd Prydain.

Gweledigaeth, gobaith, brwdfrydedd ac uchelgais: dyna, medda fo mae Llafur yn ei gynnig.