Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllideb ddrafft 拢15bn
- Awdur, John Stevenson
- Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 大象传媒 Cymru
Mae trafodaethau eisoes wedi cychwyn rhwng Llywodraeth Cymru a'r gwrthbleidiau ynghylch cynnwys y Gyllideb Ddrafft fydd yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth.
Pwrpas y trafod yw cael digon o bleidleisiau er mwyn i'r Llywodraeth ennill pleidlais ar y gyllideb yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae gan y Llywodraeth 拢15 biliwn i'w wario.
Gan mai 30 o seddau sydd gan Lafur yn y Cynulliad, mi fydd angen taro bargen gydag un o'r gwrthbleidiau. Y llynedd, cytunodd y Democratiaid Rhyddfrydol i gefnogi, er mwyn cael rhagor o arian i blant ysgol dan anfantais.
Bargeinio
Cadarnhaodd y gwrthbleidiau fod 'na drafod eisoes wedi cychwyn a bydd y bargeinio yn dechrau go iawn wedi i'r drafft gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.
Mae'r gyllideb am y flwyddyn 2013-2014, a hynny mewn cyfnod o doriadau mewn gwario cyhoeddus.
Mewn arian go iawn yn hytrach na mewn ffigwr canran, mi fydd yr arian sy'n dod o goffrau Llywodraeth San Steffan yn crebachu o ychydig dros 拢15 biliwn i 拢14.95 biliwn.
Mae'r Ceidwadwyr eisoes am weld y Llywodraeth yn gwario mwy ar iechyd; Plaid Cymru am weld rhagor yn mynd ar yr economi tra bo'r Democratiaid Rhyddfrydol am weld mwy ym myd addysg.
Ond mae'r Llywodraeth dan bwysau oherwydd y bydd pob adran o'r llywodraeth - ac felly pob Gweinidog - am weld mwy yn cael ei wario yn eu cylch gwarchod nhw.
Mi fydd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn gwneud Datganiad yn y Cynulliad Cenedlaethol prynhawn dydd Mawrth ac mae'r bleidlais derfynol yn debyg o ddigwydd yn ystod mis Rhagfyr.