Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Effaith ad-drefnu ar staffio Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Mae dogfen ddrafft gyfrinachol wedi dod i law 大象传媒 Cymru sy'n trafod newidiadau posib i wasanaethau iechyd yn y gorllewin.
Mae t卯m cynhyrchu rhaglen faterion cyfoes Taro Naw wedi gweld ei chynnwys.
Mae'r ddogfen yn nodi rhai o'r newidiadau sy'n cael eu hystyried i wasanaethau iechyd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ystod y blynyddoedd nesa.
Y bwriad yw cau pedwar Ysbyty Cymuned ac wyth ward. Mae'r ddogfen yn awgrymu y bydd yr effaith mwyaf ar nyrsys a staff clinigol.
2015
Erbyn 2015 y nod ydi torri n么l ar swyddi - mae'r nifer dan sylw yn cyfateb i 319 o swyddi llawn amser, ond bydd tua 100 o'r staff yma yn symud i weithio yn y gymuned.
Ond gan fod nifer fawr o staff y gwasanaeth iechyd yn gweithio yn rhan amser, fe allai'r newidiadau effeithio ar lawer mwy na 319 o bobl.
Dyw hi ddim yn glir o'r ddogfen faint fyddai'n colli eu swyddi trwy ddiswyddiadau gorfodol.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda wrth Taro Naw nad oedden nhw yn gallu dod o hyd i'r ddogfen, felly doedd y corff ddim yn gallu cadarnhau ei dilysrwydd.
Ond mae'r rhaglen yn datgelu bod y ddogfen wedi ei harwyddo ym mis Gorffennaf eleni gan Janet Wilkinson, un o gyfarwyddwyr y Bwrdd Iechyd.
Cydweithio
Mewn datganiad, pwysleisiodd y Bwrdd Iechyd nad ydyn nhw wedi gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol yngl欧n ag adrefnu.
Dywedodd y Bwrdd eu bod wedi eu hymrwymo i ddiogelu swyddi staff parhaol ble mae hynny'n bosib, ac y bydden nhw yn cydweithio gyda'r staff i sicrhau gwasanaethau mwy effeithlon.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda hefyd yn gobeithio y bydd y newidiadau yn gwella profiadau a chyfleon gyrfa eu staff.
Mae'r datganiad yn pwysleisio mai dim ond un ymhlith nifer o gynlluniau posib yw arbed arian trwy dorri n么l ar gyflogau. Ar hyn o bryd mae 46% o'r gyllideb yn cael ei gwario ar dalu cyflogau staff.