Llywodraeth Cymru yn 'colli cyfle,' medd y Ceidwadwyr

Disgrifiad o'r llun, Kirsty Williams: Ddim yn cefnogi'r gyllideb ar ei gwedd bresennol
  • Awdur, John Stevenson
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 大象传媒 Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi colli cyfle i gyllido'r Gwasanaeth Iechyd yn briodol, meddai llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, wedi i gyllideb ddrafft y llywodraeth gael ei chyhoeddi.

"Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi gwarando," meddai, "ac maen nhw wedi anwybyddu barn y rhai sy'n gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd.

"Mae'r Prif Weinidog eisioes wedi cydnabod na fydd y byrddau iechyd yn gallu cadw dau ben llinyn ynghyd ac felly ma'r diffyg buddsoddi digonol yn golygu anrhefn ac ansicrwydd."

Yn y cyfamser, dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol na allen nhw gefnogi'r gyllideb ar ei gwedd bresennol, meddai llefarydd.

'Cychwyn gorau'

Tra'n croesawu'r cyhoeddiad am gadw'r arian ychwanegol gafodd ei gytuno gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol y llynedd, meddai, oedd angen cadw golwg ac y cysyltiad rhwng tlodi a'r ffaith nad oedd cymaint o blant Cymru yn cyrraedd y safon.

"Mae angen i'r llywodraeth roi mwy o gymorth ariannol i ddisgyblion o flwyddyn i flwyddyn " meddai llefarydd ar ran arweinydd y blaid, Kirsty Williams.

"Rhaid sicrhau'r cychwyn gorau i bob plentyn beth bynnag yw eu cefndir."

Dywedodd Plaid Cymru fod angen diogelu pobol rhag toriadau budd-dal treth y cyngor.

'Corwynt'

"Mae Plaid Cymru yn ymrwymo i ddiogelu pobol Cymru rhag effeithiau'r corwynt economaidd," meddai arweinydd y blaid, Leanne Wood.

"Os na fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu, bydd 3000 o gartrefi Cymru yn colli arian.

"Mae'r arian yno i'w wario ond hyd yn hyn mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod ei wario."

Dywedodd y byddai ei phlaid hi mewn grym yn gwneud eu gorau glas i warchod buddiannau pobol Cymru.