大象传媒

Cynghorau Sir Cymru yn wynebu her ariannol

  • Cyhoeddwyd
graean fforddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cynghorau yn trafod sut i arbed arian a diogelu gwasanaethau

Bydd sefyllfa ariannol cynghorau sir Cymru yn parhau yn anodd tan o leiaf ddiwedd y ddegawd, yn 么l ymchwil newydd.

Mae adroddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (SAC) yn s么n am yr her sy'n wynebu cynghorau Cymru oherwydd toriadau.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

Roedd cynhadledd gyllid CLlLC yng Nghaerdydd ddydd Gwener yn trafod sut mae cynghorau yn ceisio ymdopi 芒'r sefyllfa economaidd wrth i'r pwysau ariannol ar wasanaethau gynyddu.

Yr awgrym yn yr adroddiad ydi y bydd sefyllfa ariannol y cynghorau sir yn anodd tan o leiaf 2020-21.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton (Sir y Fflint), Dirprwy Arweinydd CllLC a'i Llefarydd Cyllid: "Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir nad ydi'r rhan fwyaf o'r toriadau i wasanaethau cyhoeddus wedi eu gwneud eto. Dim ond dechrau mae'r pwysau ar gyllidebau awdurdodau lleol."

Ychwanegodd bod dyfodol ariannol tymor hir yn "heriol iawn".

Arbed arian

Mae disgwyl i awdurdodau lleol yng Nghymru wario 拢6.35 biliwn ar wasanaethau eleni.

Byddai hynny'n golygu gwario 拢2,062 y pen.

Mae adroddiad SAC yn dangos sut mae cynghorau wedi arbed arian.

Roedd y gostyngiad mwyaf mewn gwariant ar wasanaethau diogelwch. Yn y dair blynedd ddiwetha mae 24.6% yn llai o arian y pen yn cael ei wario yma.

Ond mae'r awdurdodau lleol wedi llwyddo, i raddau, i ddiogelu eu gwariant ar wasanaethau craidd. Roedd gostyngiad o 3.8% yng nghyllidebau gwasanaethau cymdeithasol tra bod 7.3% y pen yn llai wedi ei wario ar addysg.

Economi fregus

Mae'r adroddiad yn amcangyfri y gallai gwariant cynghorau sir Cymru leihau o hyd at 18% petai'r economi yn parhau yn fregus a chyflwr cyllid cyhoeddus mewn rhannau eraill o Brydain.

Bydd penderfyniadau yngl欧n ac ariannu'r Gwasanaeth Iechyd a newidiadau Llywodraeth Prydain i'r Wladwriaeth Les hefyd yn dylanwadu ar wasanaethau lleol yn 么l SAC.

Er hynny, mae Dominic MacAskill o undeb Unsain yn galw ar gynghorau Cymru i wrthwynebu toriadau sy'n deillio o benderfyniadau yn San Steffan.

"Ar y funud mae cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus wedi eu rhewi am dair blynedd ..dyw hi ddim yn bosib darparu gwasanaethau cyhoeddus ar gyflogau o'r fath."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol