Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Croesawu arian i wella twnnel
Bydd 拢25 miliwn yn cael ei wario ar wella twnnel Conwy ar yr A55.
Mae'r arian yn rhan o wariant a gyhoeddwyd gan Weinidog Cyllid Cymru, Jane Hutt, yn ei chyllideb ddrafft yr wythnos ddiwethaf, a daeth croeso i'r cyhoeddiad gan y Gweinidog Trafnidiaeth, Carl Sargeant.
Nod y cynllun yw gwella diogelwch y twnnel, ond hefyd i wella hyblygrwydd y ffordd pan mae argyfwng yn digwydd yno.
Ymhlith y materion fydd yn cael eu hystyried mae gwella diogelwch t芒n fel nad oes rhaid cau'r twnnel am hir os oes t芒n yn digwydd yno, a hefyd gwella goleuo ac awyru.
'Hanfodol'
Dywedodd Mr Sargeant: "Mae'r A55 yn rhan hanfodol o'r rhwydwaith drafnidiaeth yng ngogledd Cymru, ac rwy'n falch bod 拢25m ychwanegol ar gael i wella'r campwaith peirianyddol yma.
"Mae sicrhau cyfanrwydd yr A55 yn hanfodol i economi gogledd Cymru."
Dathlodd y twnnel ei ben-blwydd yn 20 oed yn ddiweddar.
Bydd cynlluniau manwl nawr yn cael eu paratoi gyda'r bwriad o wneud y gwaith yn ystod 2014/15.
Mae'r arian yn rhan o fuddsoddiad cyfalaf o 拢175m sy'n cynnwys 拢65m i drafnidiaeth.
Bydd gweddill yr arian yn mynd tuag at ran o ffordd Blaenau'r Cymoedd - yr A465 - rhwng Brynmawr a Thredegar.