Priodasau hoyw 'ymhen 10 mlynedd'
- Cyhoeddwyd
Mae clerigwr amlwg wedi dweud y gall gymryd 10 mlynedd cyn y bydd priodasau unrhywiol yn digwydd yn yr eglwys.
Dywedodd y Gwir Barchedig Jeffrey John, o Donyrefail yn y Rhondda, wrth 大象传媒 Cymru y bydd yn rhaid i'r eglwys yn y pen draw groesawu cyplau hoyw i'r allor.
Daw ei sylwadau wrth i lywodraeth y DU baratoi i ymateb i ymgynghoriad ar gyfreithloni priodasau unrhywiol.
Roedd Dr John yn siarad gyda rhaglen materion cyfoes 大象传媒 Cymru ,Taro Naw.
'Dau gam tu 么l'
"Rwy'n hyderus iawn," meddai.
"Mae'r prif weinidog am weld priodasau unrhywiol yn gyfreithlon erbyn 2015, ac rwy'n si诺r y bydd hynny'n digwydd."
Mae Dr John wedi bod gyda'i bartner, caplan gydag Eglwys Lloegr, ers bron 40 mlynedd, a daeth y ddau yn bartneriaid sifil yn 2006.
Ychwanegodd Dr John: "Rwy'n credu cyn hir y gwelwn ni rhyw fath o wasanaeth swyddogol o fewn yr Eglwys i fendithio partneriaethau hoyw, ond nid priodasau unrhywiol.
"Rwy'n credu y daw hynny, ond fe allai gymryd 10 mlynedd arall. Dyna sut mae'r Eglwys yn gweithio, bod tro dau gam y tu 么l i bawb arall."
Mynnodd y dylai cyplau hoyw gael yr un hawliau 芒 chyplau heterorywiol i briodi.
"Rwyf wedi bod mewn perthynas am 37 mlynedd, ac fe allaf dystio bod y cyfamod rhwng dau berson o'r un rhyw yn union yr un peth ag ydyw mewn priodas rhwng g诺r a gwraig - does dim gwahaniaeth," meddai.
"Ond cyn belled ag y mae gwahaniaeth cyfreithiol rhwng priodasau a phartneriaethau sifil, mae'n sicr y bydd partneriaethau yn cael eu gweld fel rhywbeth eilradd."
Apartheid
Yn y rhaglen, mae'n cymharu gwahaniaethu rhwng hawliau cyplau heterorywiol a hoyw gyda'r sefyllfa yn Ne Affrica yn ystod apartheid.
"Unig bwrpas apartheid oedd sicrhau nad oedd cydraddoldeb rhwng pobl wyn a phobl ddu. Yn yr un modd, mae gwahaniaethu rhwng priodasau heterorywiol a phartneriaethau sifil yn golygu bod cyplau hoyw yn cael eu gweld yn israddol. Mae'n gwbl annerbyniol," meddai.
Wrth annerch corff llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ym mis Ebrill, dywedodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, bod y ddadl am briodasau unrhywiol yn un "sydd yn rhaid ei chael".
Ond mae'r Canon Philip Wyn Davies, ficer Tregaron yng Ngheredigion, yn erbyn priodasau unrhywiol.
"Mae dysgeidiaeth y Beibl yn dweud wrthym fod priodas yn rhywbeth unigryw i ddyn a menyw," meddai.
"Byddai mynd yn groes i hynny yn gwrth-ddweud geiriau Crist ei hunan. Pa bynnag ffordd yr ydych yn gweld partneriaeth rhwng cyplau o'r un rhyw, yn sicr dyw e ddim yn briodas."
Bydd Taro Naw yn cael ei darlledu ar S4C nos Fawrth, Hydref 16 am 9:00pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012