Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mwy i wynebu llifogydd ac yn amlach yn 么l ymchwil
Fe fydd mwy o bobl yng Nghymru yn wynebu llifogydd ac yn amlach, yn 么l ymchwiliad gan raglen Week In Week Out 大象传媒 Cymru.
Yn y rhaglen, mae Syr John Houghton, arbenigwr byd eang ar newid hinsawdd, yn rhybuddio bod patrymau tywydd eithafol yma i aros ac y bydd cynnydd yn y posibilrwydd o lifogydd.
"Bydd y glaw yn dod i lawr yn drymach a'r posibilrwydd y bydd 'na gynnydd yn y posibilrwydd o lifogydd a sychder ar draws y byd erbyn canol y ganrif," meddai yn y rhaglen a fydd yn cael ei darlledu ar 大象传媒 Un Cymru nos Fawrth.
"Mae hynny yn ffigwr sylweddol ac mae rhai o fewn llywodraeth yn anfodlon derbyn pa mor ddrwg y gall y sefyllfa fod."
Mae 1 o bob 5, neu 600,000 o bobl Cymru, yn byw o fewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd.
Eleni mae trigolion Ceredigion wedi diodde' o ganlyniad i lifogydd.
Fe wnaeth gwerth wyth mis o law ddisgyn mewn un diwrnod.
'Gwersi i'w dysgu'
Bu'n rhaid i dros 1,000 o bobl adael eu cartrefi ac fe gafodd pobl yn ardal Aberystwyth wybod na fydden nhw'n cael dychwelyd i'w tai am hyd at chwe mis.
Bryd hynny, fe ddywedodd Gweinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths, y byddai'n rhaid ystyried pa wersi sydd i'w dysgu.
Pedwar mis wedi'r llifogydd dydi Beverley Jones a'i mam June ddim yn 么l yn eu cartref yng Nghapel Bangor.
Dywedodd Ms Jones ei bod yn lwcus i ddod o'i chartref yn fyw.
"Roedd y d诺r yn gwpl o droedfeddi ac roeddwn yn ofnus iawn yn enwedig pan wnes i glywed y wal gynnal yn cwympo.
"Roedd 'na dri diffoddwr t芒n tu allan yn ceisio agor y drws ac yna wrth i'r drws agor fe ddaeth y d诺r i mewn, roedd yn anhygoel."
Ond tra bod asiantaethau wedi eu canmol am eu hymateb i'r llifogydd diweddar mae 'na gwestiynau gwirioneddol yn cael eu gofyn a ydi strategaeth llifogydd y llywodraeth o gadw pobl yn ddiogel rhag llifogydd yn gweithio.
Mae 'na bryderon yngl欧n 芒 pholisi'r Llywodraeth sy'n ymwneud 芒 nifer y tai ar orlifdiroedd.
'Amheuon'
Un sy'n feirniadol ydi Gareth Davies.
Bu'n rhaid iddo adael ei gartref yn Llanbadarn Fawr yn ardal Aberystwyth yn ystod y llifogydd ym mis Mehefin.
"Mae gen i amheuon am y doethineb o ddatblygu ar orlifdiroedd.
"Rydym wedi gweld y datblygiad ym Mharc y Llyn, bod adeiladu ar orlifdir yn golygu bod angen i'r d诺r fynd i rywle arall."
Mae adroddiad arall yn cael sylw'r rhaglen, adroddiad gan Yr Athro Mark Macklin o Brifysgol Aberystwyth.
Mae'n dweud bod y llifogydd yng ngogledd Ceredigion rai misoedd yn 么l o ganlyniad i orddatblygu yn hytrach na thywydd gwael.