Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Airbus: Archeb am 25 awyren
Mae cwmni Airbus wedi derbyn archeb am 25 o awyrennau oddi wrth gwmni Singapore Airlines.
Mae'r archeb am bum awyren A380 ac 20 awyren A350.
Ffatri Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint, sy'n adeiladu adenydd yr awyrennau A380 ac A350 a hwn yw'r trydydd tro i'r cwmni archebu awyrennau oddi wrth Airbus.
Deg lleoliad
Bydd yr awyrennau deulawr A380 yn cludo hyd at 525 o deithwyr ac yn cael eu defnyddio ar gyfer teithiau i 10 lleoliad yn Ewrop, America ac ardal Asia'r M么r Tawel o'u canolfan yn Singapore.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredoedd cwmni Airbus, John Leahy: "Mae cyhoeddiad un o gwmn茂au hedfan mwyaf y byd yn tanlinellu pa mor foethus ac effeithlon yw awyrennau Airbus."
Daw'r cytundeb wedi i Philippine Airlines archebu 10 awyren A330 yn gynharach ym mis Hydref a 44 awyren A321 a 10 awyren A330 ym mis Awst.