Safon glendid traethau Cymru wedi dioddef
- Cyhoeddwyd
Tri chwarter o safleoedd nofio Cymru sy'n cwrdd 芒 gofynion Safonau Ewropeaidd, yn 么l y ffigyrau diweddaraf.
Bellach mae 100 o safleoedd yng Nghymru wedi eu dynodi'n safleoedd nofio gan Lywodraeth Cymru, o gymharu ag 88 yn 2011 - 99 o draethau, a'r Marine Lake yn Y Rhyl.
Roedd 97 ohonyn nhw'n cwrdd 芒 safonau glendid gorfodol, gyda thri - Cricieth, Traeth y Gorllewin yn Llandudno a'r Rhyl - yn methu.
Roedd 75 wedi cyrraedd safonau llymach Ewrop, o'i gymharu 芒 ffigwr o 62% ar draws Cymru a Lloegr.
Haf gwlyb
"Rwy'n falch bod 97 o safleoedd nofio yng Nghymru wedi cwrdd 芒'r safonau eleni a bod 75 wedi cyrraedd y safon uwch," meddai Gweinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths, wrth i'r ffigyrau diweddara gael eu cyhoeddi ddydd Mawrth.
"Mae d诺r nofio ar draws y DU wedi diodde' oherwydd y tywydd drwg dros yr haf.
"Dyma oedd y trydydd haf gwlypaf erioed yng Nghymru.
"Mae'r glaw trwm wedi cael effaith sylweddol ar ein hamgylchedd naturiol, gan gynnwys d诺r nofio, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ffigyrau."
Ychwanegodd cyfarwyddwr Asiantaeth Yr Amgylchedd Cymru, Chris Mills, bod dyfroedd nofio Cymru wedi gwella'n ddramatig dros yr 20 mlynedd diwethaf.
"Ond yn siomedig, mae glaw trwm yr haf wedi effeithio ar y canlyniadau eleni.
"Er gwaetha'r glaw, mae safon y d诺r ar dri chwarter o'n traethau wedi llwyddo i gyrraedd safonau Ewrop am lendid.
"Bydd y safonau yma yn mynd yn llymach yn y dyfodol, a dyna pam yr ydym yn buddsoddi ein hadnoddau i ganfod ffynonellau o lygredd, ac yn parhau i gynghori D诺r Cymru, ffermwyr a thrigolion sut y gallan nhw gynorthwyo i wella safon d诺r nofio yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2012
- Cyhoeddwyd28 Mai 2012