大象传媒

'Angen newid y gwasanaeth ambiwlams o'r top'

  • Cyhoeddwyd
Trefor Lloyd Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Trefor Lloyd Hughes bod angen y newid fod o'r Cynulliad i lawr

Mae cyn-barafeddyg wedi dweud bod angen newid Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a hynny o'r top.

Daw sylwadau'r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes wedi i Weinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths, gyhoeddi y bydd 'na adolygiad o'r gwasanaeth.

Fe wnaeth Mrs Griffiths y cyhoeddiad yn y Senedd nos Fercher.

Dywedodd y byddai'n edrych ar bob agwedd o'r gwasanaeth gan gynnwys perfformiad, cyllid a'r berthynas gyda'r byrddau iechyd lleol.

Ond mae Mr Hughes yn dweud bod rhaid cychwyn y newid o'r top, sef o'r cynulliad am mai arian ydi'r ateb.

"Dydi'r gwasanaeth ddim wedi cael yr arian dyledus i mi wybod amdano am 30 mlynedd."

"Dwi'n cyfadde bod angen edrych ar y gwasanaeth cyfan."

Disgrifiad,

Nia Thomas yn holi Trefor Lloyd Hughes

Methu targedau

Mae'r ymddiriedolaeth yn derbyn y rhan helaeth o'i chyllid gan bwyllgor sy'n cynnwys penaethiaid saith bwrdd iechyd Cymru.

Mae'r gwasanaeth wedi bod o dan y llach yn ddiweddar am fethu a chyrraedd ei dargedau o ran amser ymateb sawl gwaith eleni.

"Cymerwch chi gefn gwald...dydi'r ffyrdd ddim digon da....mae'r pwysau ar y staff yn yr ambiwlans sy'n trio achub bywyd.

"I fod yn onest mae'n amhosib mynd o Gaergybi i Rosneigr mewn 8 munud.

"Wedyn maen na ffurflen yn holi pam.

"Dwi wedi dweud ers misoedd bod 'na broblemau efo'r targedau o gyrraedd lleoliad mewn 8 munud.

"Efallai bod hyn yn bosib mewn trefi a dinasoedd fel Abertawe a Chaerdydd ond ddim yng nghefn gwlad."

Dyma fydd y nawfed adolygiad i'r gwasanaeth ambiwlans.

"Dwi'n falch bod 'na adolygiad," meddai Mr Hughes.

"Dwi'n pryderu be ddaw, mae pawb yn trio eu gorau ond dydi'r arian ddim yn dod o'r Cynulliad.

"Mae'n gywilyddus be sy'n digwydd yn y gwasanaeth ac mae'n rhaid i'r newid ddod o'r top."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol