Adroddiad iechyd beirniadol wedi ei ailysgrifennu
- Cyhoeddwyd
Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru ei fod yn mynnu cael gwybod pam fod adroddiad beirniadol ar newidiadau i wasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru wedi cael ei ailddrafftio'n sylweddol ar 么l cael ei gyflwyno.
Yn eu hymateb ffurfiol i'r cynlluniau, fe rybuddiodd y Fforwm Clinigol Cenedlaethol fod cynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn "anghynaladwy yn y tymor hir" a bod angen eu hailystyried yn sylweddol.
Ond cafodd yr ymateb ei dynnu'n 么l yn ddiweddarach wedi i Mary Burrows, pennaeth y bwrdd iechyd, ymyrryd.
Dywedodd hi fod y Fforwm wedi cael cais i "egluro" argymhellion penodol yn y ddogfen.
Yn 么l Darren Millar, roedd ailddrafftio'r ddogfen yn tanseilio hygrededd y Fforwm, yn ogystal 芒'r broses ailstrwythuro'n gyffredinol.
"Mae hwn i fod yn gorff annibynnol yn rhoi cyngor annibynnol i fyrddau iechyd lleol ar eu cynlluniau ailstrwythuro, a'r hyn sydd i'w weld yn digwydd yma yw ei fod yn cael ei ailysgrifennu ar gais y corff iechyd sydd i fod yn derbyn y cyngor annibynnol," meddai.
"Mae'n siom fod cadeirydd y Fforwm yn amlwg wedi cael trafodaethau gydag un o brif weithredwyr y gwasanaeth iechyd ac wedyn wedi newid yr adroddiad i ateb ei gofynion hi.
"Rwy'n credu y dylai cadeirydd y Fforwm ystyried ei swyddogaeth o ddifri mewn perthynas 芒 hyn ac edrych yn ofalus ar ei weithredoedd a gofyn a oeddynt wir yn addas o dan yr amgylchiadau."
Cafodd y Fforwm ei sefydlu yn 2011 gan y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths i weithredu fel corff annibynnol ac eang o arbenigwyr clinigol oedd yn cynghori a oedd newidiadau iechyd yn ddiogel yn glinigol ac yn cwrdd ag anghenion.
O dan gynlluniau BIPBC, gallai nifer o unedau man anafiadau gau, ynghyd ag ysbytai cymunedol, tra bod gofal dwys i fabanod yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, yn cael ei symud i Arrowe Park yng Nghilgwri.
Dywedodd cadeirydd y Fforwm, Mike Harmer, fod angen ailysgrifennu'r adroddiad "i sicrhau nad oedd amwysedd" a honnodd fod prif neges yr ail ddrafft yr un yn y b么n 芒'r gwreiddiol.
'Argyfwng'
Roedd yr ail adroddiad wedi dileu pob cyfeiriad at "argyfwng posib" mewn staffio ac ailstrwythuro "afrealistig ac anghynaladwy", ynghyd 芒 diffyg amserlen benodol.
Mae Mr Harmer yn gyn-ddirprwy brif swyddog meddygol gyda Llywodraeth Cymru ac yn gadeirydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.
Mae'r Fforwm hefyd wedi cytuno i ailddrafftio eu hadroddiad ar ail set o gynlluniau gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.
"Ar 么l derbyn ymateb y Fforwm, gofynnodd Mary Burrows, prif weithredwr BIPBC, i mi egluro ein safbwynt mewn perthynas 芒 nifer o gwestiynau penodol oedd wedi'u cynnwys yn nogfen ymgynghorol y bwrdd iechyd," meddai Mr Harmer.
"Roedd yr ymateb gwreiddiol, fel ag yr oedd, yn cael ei ystyried yn amwys ar rai materion.
"Roeddwn i'n teimlo ei bod yn bwysig sicrhau nad oedd yna amwysedd.
"Roeddwn hefyd yn credu ei bod yn bwysig i'r Fforwm fod yn gyson wrth ymateb, felly fe gysylltais 芒'r ddau fwrdd iechyd i dynnu'r adroddiad gwreiddiol yn 么l.
"Mae'r ddau sefydliad wedi cytuno i dderbyn drafft newydd o'r ymateb."
Mewn neges i aelodau'r Fforwm Clinigol Cenedlaethol, sydd wedi dod i law 大象传媒 Cymru, mae Mr Harmer yn dweud ei fod wedi rhannu'r penderfyniad i ailddrafftio'r adroddiad mewn e-byst preifat at Mrs Burrows a'i bod yn "hynod ddiolchgar am y gefnogaeth fwy agored i'r cynigion" yn y drafft newydd.
Mewn datganiad, dywedodd Mrs Burrows: "Cafodd trafodaethau eu cynnal gyda chadeirydd y Fforwm Clinigol Cenedlaethol am eu hymateb gwreiddiol i'r ymgynghoriad, a dderbyniwyd ar Hydref 26.
"Ynddo roedden nhw'n mynegi pryderon am gynaladwyedd tymor hir rhai gwasanaethau yng ngogledd Cymru.
"Yn ein dogfen ymgynghorol doedden ni ddim yn cynnig newid y gwasanaethau hyn yn syth, ond roedd hyn ar yr amod fod modd cwrdd 芒 safonau gyda'r adnoddau ar gael.
"Gofynnwyd wedyn i'r Fforwm Clinigol Cenedlaethol egluro eu safbwynt ar y cynigion penodol yn y ddogfen ymgynghorol, ac maent wedi gwneud hynny nawr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd9 Awst 2012
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd20 Awst 2012
- Cyhoeddwyd21 Medi 2012
- Cyhoeddwyd18 Medi 2012
- Cyhoeddwyd6 Medi 2012
- Cyhoeddwyd4 Medi 2012