Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Clefyd: Chwe achos yng Nghymru
Mae'r Comisiwn Coedwigaeth wedi dweud bod chwe achos newydd o'r clefyd sy'n effeithio ar goed ynn yng Nghymru.
Mae pump o'r safleoedd mewn coetir sy'n eiddo Llywodraeth Cymru yn Nyffryn Gwy yn y de-ddwyrain ac yng nghoetir Coed Gwent ger Casnewydd.
Ac mae'r achos newydd arall ar dir Coleg Glynllifon yng Ngwynedd.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, fod yr achosion yn ddifrifol iawn.
Mae'r holl goed ifanc ar y safleoedd hyn wedi eu dinistrio.
Dywedodd y comisiwn fod arolwg yn parhau o safleoedd eraill lle mae coed ynn o blanhigfeydd wedi eu heintio wedi eu plannu'n ddiweddar.
'Cydweithio'
Cafodd yr achos cyntaf o'r ffwng heintus ei ddarganfod yng Nghymru mewn coetir yn Sir G芒r yn gynharach y mis hwn.
Dywedodd y gweinidog: "... mae swyddogion yn cydweithio 芒'n partneriaid yn y Comisiwn Coedwigaeth, Defra, Asiantaeth Ymchwil Bwyd a'r Amgylchedd a'r gweinyddiaethau datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wrth ymateb i'r haint."
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi gwahardd mewnforio coed ynn i Brydain ac wedi gwahardd symud y coed o fewn y DU.
Yng Nghymru mae 15,348 hectar o goed ynn, 5% o'r 304,000 hectar o goetir yn y wlad i gyd.
Mae'r onnen yn bwysig oherwydd ei phren, fel coed t芒n, fel cynefin bywyd gwyllt a bioamrywiaeth.