大象传媒

Derbyn cynlluniau i droi Castell Gwrych yn westy pum seren

  • Cyhoeddwyd
Castell GwrychFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych yn croesawu鈥檙 cynlluniau

Mae Cyngor Sir Conwy wedi caniat谩u cynlluniau i droi Castell Gwrych ger Abergele yn westy moethus.

Ar 么l astudio manylion y prosiect, cyhoeddodd cynghorwyr Conwy ddydd Mercher eu bod yn hapus i gynnig caniat芒d amodol i'r cynlluniau ailddatblygu.

Mae'r adeilad Gothig Gradd I, a gafodd ei adeiladu yn 1819, heb do erbyn hyn.

Mae'r prosiect i'w droi yn westy pum seren yn cynnwys cynlluniau ar gyfer 75 ystafell wely, sba a chyfleusterau golff.

Cynigwyd y cynlluniau gan gwmni Castell Developments o ogledd orllewin Lloegr, sydd 芒 swyddfeydd yn Llanelwy.

Dywedodd Mark Baker, cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych a gafodd ei ffurfio yn y 1990au i achub yr adeilad, bod hyn yn newyddion gwych.

"Mae o wir yn gyffrous bod dyfodol y castell yn edrych yn fwy addawol.

"Dwi'n gobeithio bydd popeth yn dod at ei gilydd er mwyn i'r cyhoedd cael ei fwynhau fel un o brif atyniadau twristaidd gogledd Cymru unwaith eto."

Eglurodd Mr Baker bod sawl person enwog wedi aros yn y castell dros y blynyddoedd.

Roedd yna sw i blant yn y gerddi ac roedd yr ystafelloedd ar agor i'r cyhoedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol