大象传媒

Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru yn dechrau ar eu gwaith

  • Cyhoeddwyd
Alun Michael, Winston Roddick, Christopher Salmon ac Ian Johnston (o'r chwith gyda'r cloc)Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pedwar Comisiynydd cyntaf Heddlu a Throsedd Cymru

Mae pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd Cymru yn dechrau ar eu gwaith.

Cafodd 41 o gomisiynwyr eu hethol mewn etholiad ddydd Iau diwethaf yng Nghymru a Lloegr.

Mae gan y comisiynwyr newydd yr hawl i benodi ac i ddiswyddo prif gwnstabl, i osod cyllideb yr heddlu ac i osod strategaeth a blaenoriaethau ar gyfer y llu.

Er pryderon mai dim ond tua 15% o etholwyr Cymru wnaeth bleidleisio cafodd dau ymgeisydd annibynnol, un Ceidwadwr ac un Llafur eu dewis i gynrychioli'r pedwar llu yng Nghymru.

Fe ddisgrifiwyd yr etholiadau fel y newid mwya' i blismona mewn 50 mlynedd.

Y Ceidwadwr Christopher Salmon ac etholwyr Gomisiynydd Heddlu Dyfed Powys wrth i'r cyn-AS Llafur Alun Michael, gael ei ddewis yn Gomisiynydd Heddlu De Cymru.

Penodwyd y cyn cyn-heddwas Ian Johnston yn Gomisiynydd yng Ngwent ac yn y gogledd y bargyfreithiwr Winston Roddick gafodd ei ethol.

Mae'r pedwar wedi eu hethol tan 2016.

Cychwyn swyddogol

Pwysleisiodd Llywodraeth San Steffan nad ydi'r comisiynwyr yna i redeg y lluoedd ond yn hytrach i'w dwyn i gyfri.

Mae'r comisiynwyr wedi tyngu llw a dydd Iau mae'r gwaith yn cychwyn.

Maen nhw'n cymryd drosodd cyfrifoldeb yr awdurdodau heddlu lleol oedd yn cynnwys cynghorwyr ac aelodau etholedig.

Disgrifiad,

Rhodri Llywelyn yn holi Winston Roddick, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Wrth gael ei holi ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru ddydd Iau addawodd Mr Roddick y bydd mwy o blismyn ar strydoedd y gogledd.

"Mae 'na brinder arian wrth gwrs, does dim dwywaith am hynny.

"Ond y peth pwysica' yw sicrhau bod 'na ddigon o heddweision ar y stryd fel eu bod yn gallu ymdopi gyda'r troseddau sy'n cymryd lle.

"Dydan ni ddim yn gwario pob ceiniog ar hyn o bryd ar y drefn cyfiawnder troseddol..."

Pan ofynnwyd a ydi o'n rhoi sicrwydd felly bydd 'na fwy o heddweision ar y stryd ei ateb oedd, "ydw yn bendant".

"Dyna yw fy addewid."

Yng nghyfarfod olaf awdurdod Heddlu Gogledd Cymru, dywedodd y Prif Gwnstabl Mark Polin bod y llu o dan "bwysau cynyddol" oherwydd nifer o ddigwyddiadau mawr yn ddiweddar.

'Lleihau troseddau'

Dywedodd bod swyddogion yn gweithio ar bedwar achos mawr ar hyn o bryd gan gynnwys llofruddiaeth y milfeddyg Catherine Gowing a llofruddiaeth pump o bobl mewn t芒n yn eu cartref ym Mhrestatyn.

Disgrifiad,

Rhodri Llywelyn fu'n holi Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cyrmu

Dywedodd Alun Michael mai ei flaenoriaeth ydi cael cefnogaeth y cyhoedd "i dorri'n 么l ar dor cyfraith".

"Mae pobl eisiau gwybod bod pethau yn digwydd yn lleol, yn taclo pethau fel achosion gwrthgymdeithasol.

"Y sialens i mi fydd gweithio gyda'r prif gwnstabl a sicrhau ein bod yn parhau ar y llwybr cywir i leihau nifer y troseddau."

Yng nghyfarfod olaf Awdurdod Heddlu Dyfed Powys ddydd Mawrth dywedodd Mr Salmon y dylai'r llu fod yn falch o'u gwaith a'u bod yn un o'r lluoedd gorau yng Nghymru a Lloegr gyda'r record troseddu isa'.

"Er hynny, allwn ni ddim bod yn hunanfodlon a dwi'n gwybod mai hanner y stori ydi ystadegau.

"Dwi'n ymroddedig i gynnal ac adeiladu ar y record lwyddiannus yma o ran gwasanaethau a pherfformiad ar gyfer ein holl gymunedau ar draws canolbarth a gorllewin Cymru.

Wedi'r etholiad dywedodd Mr Johnston y byddai ar gael i "ofyn cwestiynau caled i Heddlu Gwent a'i dwyn i gyfri ar y gwasanaethau y maen nhw'n ei gynnig."

Yn y cyfamser mae'r Comisiwn Etholiadol yn ymchwilio i'r nifer isel o bleidleiswyr.