大象传媒

A55: Galw am ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd
Flooding on the A55 at Bangor, Gwynedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Caewyd rhan o'r A55 ger Bangor am 12 awr ddydd Iau

Mae un o Aelodau Cynulliad Gogledd Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad i gyflwr yr A55 wedi i lifogydd gau'r ffordd am 12 awr ddydd Iau.

Bu'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng cyffordd 12 (Tal-y-bont) a chyffordd 11 (Bangor) o ddechrau'r prynhawn tan i un lon i'r ddau gyfeiriad ailagor am 2:45am fore Gwener.

Ar raglen Taro'r Post ar 大象传媒 Radio Cymru ddydd Gwener, dywedodd Aled Roberts - AC Democratiaid Rhyddfrydol y rhanbarth - bod angen asesu a chywiro unrhyw broblem.

Yr A55 yw prif ffordd gogledd Cymru, a dydd Iau oedd yr eildro o fewn ychydig fisoedd iddi gael ei chau yn yr un ardal.

Gwrthdrawiad oedd y rheswm y tro cyntaf cyn i lifogydd ddydd Iau achosi'r un peth eto. Ar y ddau achlysur, roedd trafnidiaeth yn ninas Bangor a'r cyffiniau ar stop yn llwyr, ac mae hynny wedi codi gwrychyn llawer.

'Problem ers 1994'

Mae'r ffermwr Gareth Jones yn byw ger Llanfairfechan, ac mae ei blant yn mynd i'r ysgol ym Mangor.

Dywedodd yntau ar Taro'r Post bod ei ferch wedi gorfod treulio noson gyda pherthynas ym Mangor, a bod y teulu wedi gorfod cysgu ar wah芒n.

Er bod Aled Roberts yn derbyn bod yr amgylchiadau ddydd Iau yn eithriadol, roedd yn pwysleisio mai dyma'r rhan hynaf o holl ffordd yr A55, a'i bod yn bryd i Lywodraeth Cymru asesu'r sefylla er mwyn gweld os oes modd gwneud rhywbeth i wella'r sefyllfa pe bai'r un peth yn digwydd eto yn y dyfodol.

Roedd Gareth Jones, sydd hefyd yn aelod o gyngor plwyf Llanfairfechan, yn llawer mwy beirniadol o'r Asiantaeth Briffyrdd.

Dywedodd: "Rydym yn gwybod fod yna broblem ar y rhan yma o'r A55 ers 1994. Fe ddywedodd yr asiantaeth bryd hynny bod angen gwario 拢20 miliwn, ond does dim byd wedi cael ei wneud.

"Mae'n shambles a deud y gwir. Mae pawb yn trio rhoi'r bai ar ei gilydd, ond ni sy'n talu'r trethi a ni sy'n diodde' bob tro, ac mae'n hen bryd i rywbeth gael ei wneud."

'Anymarferol'

Disgrifiad,

Dylan Jones yn holi Aled Roberts AC ar Taro'r Post ar 大象传媒 Radio Cymru.

Pan gaewyd yr A55 ym mis Awst wedi i lori droi drosodd ger Abergwyngregyn, sydd ddim yn bell o Lanfairfechan, gwrthododd Llywodraeth Cymru alwad i ledu'r ffordd yn yr ardal gan ddweud y byddai hynny'n "anymarferol".

Dywedodd llefarydd ar y pryd: "Byddai lledu'r ffordd yn golygu prynu tir ac fe fyddai'n gostus dros ben. O ystyried hynny yn yr hinsawdd economaidd anodd presennol, nid yw hynny'n cael ei ystyried yn ddewis posibl."

Ond yna ym mis Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog Trafnidiaeth Carl Sargeant y byddai'n rhoi 拢25 miliwn i wella'r A55 yn ardal twnnel Conwy cwta ddeng milltir ffwrdd er mwyn gwella hyblygrwydd y ffordd pan mae argyfwng yn digwydd yno.

Cyfaddefodd Mr Sargeant bod yr A55 yn "rhan hanfodol o'r rhwydwaith drafnidiaeth yng ngogledd Cymru".

Ymateb

Wrth ymateb i alwad Mr Roberts ddydd Gwener, dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad: "Mae'r Gweinidog wedi gofyn i swyddogion adolygu'r holl faterion sy'n ymwneud 芒 digwyddiadau ddoe.

"Mae hefyd wedi gofyn iddynt ymchwilio ar frys i weld a fyddai gwell system ddraenio ar y rhan arbennig yma o'r A55 wedi gallu atal beth ddigwyddodd ddoe rhag digwydd eto yn y dyfodol.

"Mae yna gynlluniau wedi eu cytuno o flaen llaw yngl欧n 芒 lle fydd y traffig yn cael ei ddargyfeirio a sut fydd y wybodaeth ddiweddara yn cael ei chyfathrebu i'r cyhoedd pan fydd digwyddiadau difrifol fel hyn yn digwydd.

"Fodd bynnag, roedd llifogydd ddoe yn ddigwyddiadau eithafol, ac roedd hi'n anodd iawn osgoi'r hyn a ddigwyddodd.

"Fel gyda phob digwyddiad o'r fath sydd yn achosi gymaint o drafferthion i'r rhwydwaith, fe fyddwn yn ymchwilio yn fanwl i weld pa wersi sydd i'w dysgu."