大象传媒

Llifogydd: Marchnad Rhuthun i'r adwy

  • Cyhoeddwyd
Marchnad Rhuthun yn rhoi cymorth i fart Llanelwy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Marchnad Rhuthun yn rhoi cymorth i fart Llanelwy

Bydd hi'n bosib i ffermwyr a oedd yn bwriadu gwerthu eu hanifeiliaid ym mart Llanelwy wneud hynny ym marchnad Rhuthun ddydd Iau.

Mae mart Llanelwy wedi ei ddifrodi ar 么l y llifogydd fore Mawrth.

Ar y Post Cyntaf bore Iau dywedodd yr arwerthwr Glyn Owens ei fod yn falch bod marchnad Rhuthun yn medru helpu rheolwyr mart Llanelwy.

Mae pellter o 14 milltir rhwng y ddau mart.

"Mae hi'n adeg bwysig o'r flwyddyn i ffermwyr fedru gwerthu eu hanifeiliaid. Mae hi'n braf bod hi'n bosib i rai oedd wedi bwriadu gwerthu yn Llanelwy ddod yma i Ruthun" meddai.

Dydi hi ddim yn glir eto pa bryd y bydd mart Llanelwy yn ail agor.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol