Cwest: Menyw wedi boddi yn ei chartref yn Llanelwy

Ffynhonnell y llun, North Wales Police

Disgrifiad o'r llun, Roedd gan Margaret Hughes air caredig i'w chymdogion bob tro, meddai cymydog

Mae cwest wedi clywed bod y fenyw gafodd ei darganfod yn farw yn ei chartref yn ystod y llifogydd yn Llanelwy wedi boddi.

Cafwyd hyd i gorff Margaret Hughes gan dimau achub wrth iddyn nhw helpu pobl i adael eu cartrefi yn y ddinas ddydd Mawrth.

Fe gafodd cwest i'w marwolaeth ei agor a'i ohirio ddydd Gwener gan grwner dros dro canol gogledd Cymru, John Gittins.

Clywodd y cwest fod archwiliad post mortem patholegydd y Swyddfa Gartref Dr Brian Rodgers yn dangos mai achos ei marwolaeth oedd iddi foddi.

Fe fyddai wedi dathlu ei phen-blwydd yn 92 oed ddydd Iau.

Yn gynharach yn yr wythnos, fe roddwyd teyrngedau i Mrs Hughes gan ei theulu.

Dywedodd ei chymydog Mandy Williams fod Mrs Hughes bob tro 芒 gair caredig i'w chymdogion.

"Roedd yn edrych ymlaen at fynd i siopa ar gyfer ei phen-blwydd," meddai.