Ymweliad brenhinol wedi'r dilyw
- Cyhoeddwyd
Bron wythnos ar 么l i lifogydd difrifol daro Llanelwy mae'r Tywysog Charles wedi ymweld 芒'r ddinas.
Yn y bore roedd yn cwrdd 芒 thrigolion Stad Parc Roe ble oedd pob t欧 dan dd诺r wedi'r dilyw'r wythnos ddiwetha'.
Wedyn aeth i'r orsaf d芒n ym Mhrestatyn a llongyfarch aelodau'r gwasanaeth cyn cwrdd 芒 gwirfoddolwyr yng Nghadeirlan Llanelwy.
Dywedodd llefarydd ar ran Clarence House fod y Tywysog am ddiolch i'r gwasanaethau brys a cheisio cefnogi'r cannoedd oedd wedi bod mewn trafferth.
Cyfrannodd y Tywysog at yr ap锚l a lansiwyd ar gyfer dioddefwyr ond chafodd yr union swm ddim ei ddatgelu.
Mwy o law
Yn y cyfamser, mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi rhybuddio pobl yng ngogledd Cymru i fod yn wyliadwrus gan y bydd mwy o law.
Mae lefelau afonydd Elwy a Chlwyd yn parhau i ddisgyn wedi'r llifogydd yn y ddinas, ynghyd 芒 Rhuthun a chymunedau eraill.
Ond dywedodd yr asiantaeth fod glaw yn debyg o gyrraedd y gogledd eto ddydd Llun.
Doedden nhw ddim yn disgwyl i'r glaw achosi llifogydd ond roedd angen gofal rhag ofn i'r sefyllfa newid.
Dywedodd llefarydd ar ran y Tywysog Charles: ""Fe benderfynodd y Tywysog ymweld 芒 Llanelwy oherwydd bod y ddinas wedi ei tharo yn galed gan fod effaith ar 180 o dai."
Mae wedi gofyn i un o'i elusennau, Busnes yn y Gymuned, i helpu atgyweirio'r difrod yn Llanelwy.
Angen gofal
Mae'r asiantaeth wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych er mwyn cynnig cyngor i'r rhai ddioddefodd oherwydd y llifogydd.
Mae swyddogion ar gael mewn sesiynau "galw heibio" dyddiol.
Fe fydd y sesiynau rhwng 8am a 6pm tan ddydd Mercher y tu allan i'r llyfrgell yn Llanelwy ac yn y swyddfa werthu ar stad Glasdir yn Rhuthun.
Ers dyddiau mae timau'r asiantaeth wedi archwilio amddiffynfeydd ger yr afonydd ac wedi trwsio lle bo'r angen.
Maen nhw hefyd wedi bod yn clirio coed, mwd, cerrig a gweddillion o'r afonydd allai achosi llifogydd pellach.
Dywedodd yr asiantaeth y dylai pobl wrando ar fwletinau tywydd neu ffonio llinell llifogydd arbennig ar 0845 988 1188.
Mae manylion hefyd ar .
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012