大象传媒

Iaith: 'Ddim yn argyfyngus,' medd gweinidog

  • Cyhoeddwyd
Leighton Andrews
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Leighton Andrews yn gwadu bod argyfwng

Mae'r Gweinidog 芒 chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg, Leighton Andrews, wedi gwadu bod sefyllfa'r iaith yn argyfyngus yn sgil canlyniadau'r Cyfrifiad 2011 ond roedd yn cydnabod bob "problem yng nghefn gwlad".

Mae'n amser cydweithio, meddai, gydag awdurdodau lleol rhai o'r ardaloedd hynny er mwyn gwella'r sefyllfa.

"Rydyn ni wedi cyhoeddi strategaeth eleni. Felly mae'n bwysig ein bod ni'n cydweithio i sicrhau ein bod ni'n cefnogi'r iaith.

"Mae angen canfod mwy o ffyrdd i helpu pobl ifanc i ddefnyddio'r iaith yn eu cymunedau - y tu allan i'r dosbarth. Dyna beth sy'n bwysig nawr.

'Datblygu'

"Mae'n amlwg hefyd fod rhaid edrych ar y sefyllfa yn yr ardaloedd gwledig - mae problem yno.

"Rhaid i ni weithio gyda Sir G芒r a Cheredigion i helpu'r iaith ddatblygu yn eu hardaloedd.

"Dydw i ddim yn credu bod argyfwng ar hyn o bryd ond mae'n bwysig cydweithio."

Mae Suzie Davies, llefarydd Y Ceidwadwyr ar y Gymraeg, wedi dweud bod y manylion yng Nghyfrifiad 2011 yn her a bod rhai ysgolion yn colli cyfle economaidd a diwylliannol.

"Mae Llafur wedi bod mewn grym ers tair blynedd a'r ddeg," meddai.

"Bwriad eu strategaeth iaith oedd cynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg erbyn Cyfrifiad 2011.

"Mae'r strategaeth honno wedi methu ac mae 'na sawl sialens er mwyn darparu a chynyddu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg."

'Economaidd'

Dywedodd Plaid Cymru eu bod yn poeni am y cwymp sylweddol yn nifer a chanran y siaradwyr yn siroedd y gorllewin yn ogystal 芒'r diffyg cynnydd mewn ardaloedd eraill o Gymru.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith, Simon Thomas, wedi dweud bod cysylltiad rhwng tynged yr iaith a'r angen i wella economi Cymru.

"Os yw siaradwyr Cymraeg o'r ardaloedd traddodiadol hynny i aros yn eu cymunedau, mae angen iddyn nhw gael cyfleoedd economaidd i'w cadw yno.

"Pa bynnag enillion a wneir mewn addysg, hawliau iaith neu'r cyfryngau - ac y mae'r rheiny i'w croesawu - dim ond economi gref fydd yn gwneud y cymunedau Cymraeg hyn yn hyfyw yn y tymor hir."

'Methu'

Mynnodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig fod y ffigyrau'n dangos methiant Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, Aled Roberts: "Nod y strategaeth oedd canolbwyntio ar gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg - rhywbeth y mae wedi methu 芒 chyflawni.

"Mae'n arbennig o bryderus fod cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng nghadarnleoedd y gorllewin.

"Yn amlwg, mae trafferthion yn ymwneud 芒 datblygiad economaidd yn yr ardaloedd hynny a faint o waith sy' ar gael i bobl ifanc a'u teuluoedd.

"Er bod arwyddion calonogol am y nifer o bobl ifanc sy'n gallu siarad Cymraeg, mae pryderon eraill sydd angen eu hateb o safbwynt addysg.

"Does bosib ei bod yn iawn fod disgyblion 芒 TGAU Cymraeg (ail-iaith) yn methu siarad Cymraeg gydag unrhyw hyder ar 么l gadael ysgol.

"Yn nwyrain y wlad, mae llawer o deuluoedd sydd am fagu eu plant i siarad Cymraeg ond dydyn nhw ddim yn cael yr hawl i wneud hynny."