Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Beirniadaeth am ofal ysbyty wedi i fenyw golli rhan o'i choes
Gallai gofal gwael mewn ysbyty wedi cyfrannu at fenyw yn colli rhan o'i choes wedi iddi ddisgyn i bwll d诺r, medd ombwdsmon Cymru.
Dywedodd Peter Tyndall nad oedd staff yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful wedi gwneud digon i drin haint gafodd y fenyw wrth ddisgyn.
Fe gadarnhaodd Mr Tyndall g诺yn y fenyw, gan ddweud pe bai wedi cael gofal gwell efallai na fyddai wedi gorfod colli rhan isa'i choes.
Gorchmynnwyd i Fwrdd Iechyd Cwm Taf ymddiheuro i'r fenyw a thalu 拢3,000 iddi hi.
Roedd y bwrdd hefyd yn derbyn yr holl argymhellion yn adroddiad yr ombwdsmon i'r digwyddiad.
Risg o haint
Disgynnodd y fenyw - sy'n cael ei hadnabod fel Mrs B yn yr adroddiad - i bwll d诺r yn ei gardd ym mis Gorffennaf gan dorri ei ff锚r wrth wneud.
Bu ei choes a dan y d诺r am tua 10 munud cyn iddi fedru rhyddhau ei hun a chropian yn 么l i'r t欧.
Cafodd ei chludo i Ysbyty Tywysog Charles, ac fe gafodd asesiad a thriniaeth am y toriad.
Cwynodd Mrs B wrth yr ombwdsmon gan ei bod yn teimlo y dylai fod wedi cael ei throsglwyddo i ganolfan arbenigol yn syth oherwydd y risg o haint gan fod y briw wedi bod o dan dd诺r y pwll.
Dywedodd nad oedd yr ysbyty wedi ei gyrru am ofal arbennig yn Ysbyty Treforys, Abertawe, tan 11 diwrnod wedi'r anaf, ac erbyn hynny roedd yr haint wedi gafael.
Roedd staff yn Nhreforys o'r farn bod yr haint mor ddrwg fel bod rhaid torri rhan isaf ei choes dde i ffwrdd.
'Anghyfiawnder mawr'
"Dioddefodd Mrs B anaf erchyll a chyfnod anodd, gan arwain at driniaeth a newidiodd ei bywyd," meddai adroddiad yr archwilydd.
"Er bod anafiadau Mrs B yn rhai heriol i'r ysbyty, rwyf o'r farn bod y gofal a gafodd ddim wedi cyrraedd safon dderbyniol.
"Yn fwy na hynny, fe allai'r methiannau fod wedi cyfrannu at y diweddglo trist."
Ychwanegodd y dylai'r ysbyty fod wedi gofyn am gyngor microbiolegol am anaf y fenyw, ac y dylai fod wedi cael ei throsglwyddo i Ysbyty Treforys cyn gynted ag y daeth yr haint i'r amlwg.
"Bydd rhaid i Mrs B fyw gyda'i hanabledd am weddill ei hoes," meddai.
"Yn fwy na hynny, fe fydd yn rhaid iddi feddwl am yr ansicrwydd yngl欧n ag a oedd modd osgoi hynny. Mae hwn yn anghyfiawnder mawr," ychwanegodd.
Dywedodd yr ombwdsmon bod Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi derbyn holl argymhellion ei adroddiad i wella gofal i'r cleifion, gan gynnwys staff o Ysbyty'r Tywysog Charles yn cysylltu gyda'r rhai o Dreforys er mwyn sicrhau eglurder yngl欧n 芒 phryd i yrru cleifion am ofal arbenigol.