Caneuon Cymraeg: Ap锚l y 大象传媒

Ffynhonnell y llun, 大象传媒 Wales

Disgrifiad o'r llun, Dim cytundeb eto rhwng y 大象传媒 ac EOS, y corff sy'n cynrychioli dros 300 o artistiaid a chyfansoddwyr Cymraeg.

Mae'r 大象传媒 wedi gwneud ap锚l funud olaf ar gerddorion Cymraeg i ystyried cynnig ariannol mewn anghydfod yngl欧n 芒 thaliadau am ddarlledu eu gwaith ar Radio Cymru.

Dywedodd llefarydd y gallai "rhan helaeth o'r gerddoriaeth sy'n cael ei chwarae ar Radio Cymru gael ei thynnu n么l o Ionawr 1 os nad oes modd cyrraedd cytundeb munud olaf."

EOS fydd yn rheoli'r hawliau i ddarlledu degau o filoedd o ganeuon Cymraeg o fis Ionawr ymlaen, a hynny oherwydd bod dros 300 o artistiaid Cymraeg yn anhapus 芒'r taliadau sydd bellach ar gael trwy asiantaeth Freindaliadau'r PRS.

Er bod y trafodaethau rhwng y 大象传媒 ac EOS wedi parhau ers peth amser, does yna ddim cytundeb eto.

Dywedodd Cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Os na fydd EOS yn derbyn y cynnig fe fyddwn ni'n gorfod peidio 芒 chwarae rhan helaeth o'r gerddoriaeth sy'n gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru o Ionawr 1 - penderfyniad sy'n peryglu ac yn niweidio gwasanaeth sydd wrth galon bywyd a diwylliant Cymraeg.

"Rydym wedi gwneud pob ymdrech i ddatrys yr anghydfod, ac wrth i'r Nadolig agos谩u rydym yn obeithiol y byddwn yn gallu dod i gytundeb. Rydym wedi gwrando'n astud ar bryderon y cerddorion ac wedi ymateb gyda chynnig sylweddol ac arwyddocaol sy'n adlewyrchu pwysigrwydd cerddoriaeth Gymraeg i'n cynulleidfaoedd ac i fywyd diwylliannol Cymru.

"Mewn cyfnod ariannol anodd, pan mae pob darlledwr cyhoeddus yn wynebu toriadau rydym yn teimlo ein bod wedi gwneud cynnig sy'n arwyddocaol, yn sylweddol ac yn deg."

Dywed EOS nad ydynt wedi gwrthod cynnig y 大象传媒, a doedden nhw ddim am wneud sylw tra bod y trafodaethau yn parhau.