Cerddorion Cymraeg yn gwrthod cynnig y 大象传媒
- Cyhoeddwyd
Mae'r 大象传媒 wedi cyhoeddi bod EOS, y corff sy'n cynrychioli cannoedd o gerddorion a chyfansoddwyr Cymraeg wedi gwrthod cynnig ariannol y gorfforaeth i sicrhau'r hawliau i ddarlledu miloedd o ganeuon o fis Ionawr ymlaen.
Ffurfiwyd EOS am fod y cerddorion sy'n aelodau ohono yn anhapus a'r taliadau sydd bellach ar gael trwy asiantaeth freindaliadau'r PRS (Performing Rights Society).
Dywed y 大象传媒 y byddai eu cynnig wedi golygu cynnydd "sylweddol ac arwyddocaol" yn y taliadau y maen nhw'n eu derbyn am ddarlledu eu gwaith ar Radio Cymru, ond ni chafwyd cytundeb wedi trafodaethau diweddar i geisio datrys yr anghydfod.
'Ddim yn realistig'
Dywedodd Cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies eu bod wedi gwrando yn astud ar bryderon y cerddorion:
"Yn anffodus, heddiw fe wrthododd EOS y cynnig, ac fe fynnon nhw fwy na dengwaith yr hyn sy'n cael ei dalu ar hyn o bryd. Dyw hynny ddim yn realistig mewn cyfnod pan mae pob darlledwr cyhoeddus yn wynebu toriadau."
Dywedodd Dafydd Roberts ar ran EOS eu bod wedi eu siomi'n arw bod y 大象传媒 wedi cyhoeddi datganiad newyddion yn ystod trafodaethau heddiw, gan ychwanegu bod hynny'n amhriodol.
Mae EOS o'r farn nad ydy'r 大象传媒 yn dymuno cynnal trafodaethau pellach.
Cwmni newydd
Gwrthododd Mr Roberts honiad y 大象传媒 fod eu cynnig yn un hael a mynnodd fod EOS wedi ildio mwy na'r 大象传媒 yn ystod y trafodaethau.
Dywedodd ei fod wedi ei siomi fod y 大象传媒 wedi parhau i gyfeirio at lefel y taliadau sydd ar gael trwy'r PRS. Roedd hyn meddai yn dangos diffyg dealltwriaeth oherwydd bod EOS yn gwmni newydd heb unrhyw gysylltiad 芒'r PRS.
Mae'r 大象传媒 bellach yn disgwyl y bydd angen torri n么l ar oriau darlledu Radio Cymru yn y flwyddyn newydd.
Yn 么l Rhodri Talfan Davies: "Fe fyddwn ni nawr yn gorfod peidio 芒 chwarae rhan helaeth o'r gerddoriaeth sy'n gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru o 1 Ionawr - penderfyniad sy'n peryglu ac yn niweidio gwasanaeth sydd wrth galon bywyd a diwylliant Cymraeg
"Fe fyddwn yn annog EOS i ail-ystyried eu safiad ac i ail gydio yn y trafodaethau cyn gynted a phosib. Yn y cyfamser fe fyddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i warchod y gwasanaeth gwerthfawr mae Radio Cymru yn ei gynnig i'r gwrandawyr."
Yn 么l y 大象传媒, fe gynigiodd y gorfforaeth ymestyn y trafodaethau neu fynd at wasanaeth cymodi annibynnol, ac mae'r 大象传媒 nawr yn ystyried gofyn i dribiwnlys hawlfraint annibynnol benderfynu ar bris teg am y gerddoriaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd9 Awst 2012
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2011