Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwaith Rembrant i'w weld yng Nghaerdydd
Caiff un o weithiau Rembrandt ei weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae'r amgueddfa wedi cael benthyca' portread o Catrina Hooghsaet gan Gastell Penrhyn.
Mae'r amgueddfa wedi gallu cynnig y cyfle i ymwelwyr weld gwaith Rembrandt van Rijn (1606-1669), o ganlyniad i gymorth gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y portread i'w weld yn yr Amgueddfa tan Chwefror 17 2013.
Bryd hynny bydd yn dychwelyd i'w gartref yng Nghastell Penrhyn.
Mae wedi bod yno ers yr 1860au.
Un o foneddigesau cyfoethog Amsterdam yw gwrthrych y llun a gafodd ei baentio yn 1657.
Yn ystod y 1650au, Rembrandt oedd artist mwyaf poblogaidd Amsterdam.
Ac erbyn mae'n cael ei gydnabod fel un o'r ffigyrau pwysicaf yn hanes celf.
'Ei weld a'i edmygu'
"Rwy'n hynod falch ein bod yn cael cyfle arall i arddangos campwaith hynod Rembrandt yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd," meddai Huw Lewis, Y Gweinidog dros Dai, Adfywio a Threftadaeth.
"Mae'n waith sy'n rhaid ei weld....a'i edmygu.
"Mae dod 芒 chelf o'r safon yma yn agosach at bobl, yn ddaearyddol a thrwy arddangos gwaith yn Amgueddfa Cymru sy'n rhad ac am ddim, yn rhan bwysig o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu mynediad pobl Cymru i'r Celfyddydau."
Dywedodd Oliver Fairclough, Ceidwad Celf yr Amgueddfa eu bod yn hynod falch o allu dangos y darlun.
"Bu'r portread yma am rai misoedd yn 2009 ac roedd yn arbennig o boblogaidd ymhlith yr ymwelwyr, felly rydym yn falch iawn i'w groesawu'n 么l i ymwelwyr gael ei fwynhau.
"Mae cael arddangos yr hyn a ddisgrifir yn un o weithiau mwyaf arwyddocaol yr hen feistri mewn casgliad preifat yn y DU yn gyfle arbennig iawn i Amgueddfa Cymru.
"Rydym yn ddiolchgar i Amgueddfa Cymru ac i Ymddiriedolwyr Ystadau Setledig Penrhyn am adael i ni rannu'r campwaith hwn sydd fel arfer yn rhan ganolog o arddangosiadau'r Castell."