Newidiadau i Radio Cymru oherwydd anghydfod?

Ffynhonnell y llun, BCB

Disgrifiad o'r llun, Fe fydd 'na newidiadau i amserlen Radio Cymru oherwydd anghydfod

Mae gorsaf radio 大象传媒 Radio Cymru, sydd ynghanol anghydfod yngl欧n 芒 breindaliadau i gyfansoddwyr ac artistiaid Cymraeg, wedi cyhoeddi newidiadau i'w rhaglenni.

Fe fydd cerddoriaeth Saesneg yn cael ei darlledu ar yr orsaf oni bai y bydd yr anghydfod yn cael ei ddatrys cyn Ionawr 1.

Mae hyn yn rhan o newidiadau a gyhoeddwyd gan 大象传媒 Cymru ddydd Llun.

Dywedodd y gorfforaeth bod disgwyl i'r trafodaethau rhwng y 大象传媒 ac Eos - y gymdeithas newydd ar gyfer cyfansoddwyr ac artistiaid Cymraeg - barhau ddydd Llun.

Mae Eos, sydd am i'r 大象传媒 newid eu hagwedd yn anfodlon gyda'r swm sy'n cael ei gynnig i artistiaid am ddarlledu eu gwaith.

30,000 o ganeuon

Ddydd Sadwrn daeth cyhoeddiad gan S4C eu bod wedi dod i gytundeb gydag Eos yngl欧n 芒 breindaliadau.

Ond heb gytundeb gyda'r 大象传媒 fydd dim modd i Radio Cymru ddarlledu dros 30,000 o ganeuon Cymraeg, y rhan fwyaf o'r gerddoriaeth sy'n cael ei chwarae ar yr orsaf.

Mae dros 300 o artistiaid wedi trosglwyddo eu haelodaeth o'r PRS (Performing Rights Society) i Eos yn gynharach yn y flwyddyn.

Cyn y Nadolig dywedodd 大象传媒 Cymru bod Eos wedi gwrthod cynnig sylweddol.

Ymhlith y newidiadau fe fydd arlwy'r orsaf yn gostwng ddwy awr y dydd, gyda'r ddarpariaeth gerddorol yn ystod y dydd yn ehangu i gynnwys cerddoriaeth glasurol boblogaidd ac offerynnol, yn ogystal 芒 nifer o artistiaid Saesneg a rhyngwladol.

Fe fydd rhaglenni nosweithiol poblogaidd C2 - sy'n rhoi llwyfan i gerddoriaeth Gymraeg newydd - yn cael eu cwtogi i awr, ac fe fydd yr orsaf yn dechrau darlledu awr yn hwyrach yn y bore (am 6.30am).

Fe fydd yr orsaf yn gorffen darlledu am 11pm.

'Effaith andwyol'

Dywedodd cadeirydd Eos, Gwilym Morus: "Mae'n bechod fod y 大象传媒 wedi dewis niweidio'r gwasanaeth radio cenedlaethol am eu bod yn anfodlon talu pris teg am gerddoriaeth Gymraeg.

"Ein cynulleidfa yw cynulleidfa'r 大象传媒 a dydyn ni ddim am i Radio Cymru ddioddef mwy o niwed.

"Mae'r penderfyniadau hyn gan benaethiaid y gorfforaeth yn mynd i gael effaith andwyol ar y gynulleidfa.

"Gwaetha'r modd, rwy'n credu fod yn 大象传媒 yn Llundain yn dangos diffyg parch tuag at eu staff yng Nghymru a diwylliant Cymraeg.

"Rydym yn gofyn iddynt ailystyried eu hagwedd er mwyn osgoi achosi niwed tymor hir i Radio Cymru."

Wrth s么n am y newidiadau, dywedodd Si芒n Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg 大象传媒 Cymru: "Er y bydd cerddoriaeth Gymraeg yn parhau i fod yn rhan hollbwysig o'n rhaglenni, fe fydd yr anghydfod presennol yn ein rhwystro ni rhag chwarae'r rhan fwyaf o'n darpariaeth arferol.

"Fe fydd hyn, wrth reswm, yn cael effaith amlwg ar y gwasanaeth y gallwn ni ei ddarparu, ond hoffwn bwysleisio i'n gwrandawyr ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i warchod ansawdd ein rhaglenni er gwaetha'r amgylchiadau anodd."

Llythyr

Yn y cyfamser mae Ymddiriedolaeth y 大象传媒, sy'n goruchwylio'r 大象传媒 ac yn gweithredu ar ran y rhai sy'n talu ffi'r drwydded, hefyd wedi rhybuddio y gallai'r anghydfod fod mewn perygl o "niweidio gwasanaeth hanfodol" i wrandawyr.

Mewn llythyr at Gyfarwyddwr 大象传媒 Cymru, Rhodri Talfan Davies, a gyhoeddwyd ddydd Llun, fe ddywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y 大象传媒 dros Gymru: "Mae'r drwg y gallai newid sylweddol ei gael ar gyfer ein cynulleidfaoedd yn bryder mawr iawn i mi...

"Rwy'n deall y pwysau ariannol sy'n wynebu cerddorion Cymraeg ond mae pwysau enfawr ar y 大象传媒 hefyd, fel ag sydd ar bob corff cyhoeddus.

"Does neb yn ennill o weithredu fel hyn, yn sicr nid cynulleidfa Radio Cymru.

"A gaf i bwyso arnoch chi i barhau gyda'ch ymdrechion er mwyn sicrhau fod hyn yn cyrraedd datrysiad derbyniol...."

Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Ry'n ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gyrraedd cytundeb synhwyrol a chynaliadwy gydag Eos.

"Ry'n ni wedi gwrando'n ofalus ar bryderon y cerddorion ac yn cydnabod yr effaith sylweddol y gallai'r anghydfod yma ei gael ar wrandawyr Radio Cymru os nad oes yna gytundeb.

"Gobeithiwn y gallwn ddod i gytundeb cyn gynted 芒 phosib."

Mae Eos wedi dweud na fyddan nhw'n gwneud sylw tan ddydd Llun.