Llythyr Elan Closs Stephens at Rhodri Talfan Davies
- Cyhoeddwyd
Llythyr Ymddiriedolwr Cenedlaethol y 大象传媒 dros Gymru, Elan Closs Stephens at Gyfarwyddwr 大象传媒 Cymru, Rhodri Talfan Davies.
Annwyl Rhodri,
Ysgrifennaf atoch i ymateb i'ch llythyr at Arglwydd Patten yngl欧n 芒'r posibilrwydd na fydd Radio Cymru yn gallu darlledu rhan sylweddol iawn o'i repertoire cerddorol. Diolch am y wybodaeth yma am y sefyllfa.
Yn ei ateb atoch ar ran Ymddiriedolaeth y 大象传媒 mae David Liddiment, Cadeirydd Pwyllgor Cynulleidfaoedd a Pherfformiad yr Ymddiriedolaeth, yn amlinellu'r effaith y gall y mater hwn ei gael, yn ei farn ef, ar y modd mae Radio Cymru yn gallu cydymffurfio gyda gofynion ei Thrwydded Gwasanaeth. Yn ogystal 芒 sylwadau David fe hoffwn i rannu gyda chi fy marn am yr effaith yr wy'n teimlo y gallai hyn ei gael ar Radio Cymru ac ar yr iaith Gymraeg.
Fel y gwyddoch, yr wyf wedi dilyn y mater hwn gyda diddordeb mawr dros y blynyddoedd ac mae'n rhaid i mi fynegi fy mhryder difrifol yngl欧n 芒'r newid sylweddol posib hwn ar natur gwasanaeth Radio Cymru os nad yw'n gallu darlledu ei repertoire arferol. Mae'r drwg y gallai newid sylweddol ei gael ar gyfer ein cynulleidfaoedd yn bryder mawr iawn i mi.
Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr iawn yr ymdrechion yr ydych chi a Radio Cymru yn eu gwneud i liniaru'r effeithiau hyn. Dyma'r unig orsaf radio Gymraeg llawn yn y byd a gallai'r gweithredu yma wneud drwg nid yn unig i'r orsaf ac i'r 大象传媒 ond hefyd byddai'n peri loes i wrandawyr Radio Cymru sy'n ystyried yr orsaf yn rhan bwysig o'u bywydau a werthfawrogir yn fawr.
Er mwyn y gynulleidfa rwy'n mawr obeithio y gall y naill ochr a'r llall ddod yn 么l at ei gilydd i ddatrys hyn. Rwy'n deall y pwysau ariannol sy'n wynebu cerddorion Cymraeg ond mae pwysau enfawr ar y 大象传媒 hefyd, fel ag sydd ar bob corff cyhoeddus. Does neb yn ennill o weithredu fel hyn, yn sicr nid cynulleidfa Radio Cymru.
'Rwy'n ddiolchgar iawn i chi a'ch t卯m am eich ymdrechion i ddatrys y mater hwn. A gaf i bwyso arnoch chi i barhau gyda'ch ymdrechion er mwyn sicrhau fod hyn yn cyrraedd datrysiad derbyniol fel y gall Radio Cymru barhau i gynnig gwasanaeth llawn i'r gynulleidfa Cymraeg ei hiaith?
Yr eiddoch yn gywir,
Elan Closs Stephens
Ymddiriedolwr Cenedlaethol y 大象传媒 dros Gymru
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2012