Gohirio cyfres newydd Talwrn y Beirdd am y tro
- Cyhoeddwyd
Mae 大象传媒 Radio Cymru wedi cadarnhau y bydd darllediad o gyfres newydd o 'Talwrn y Beirdd' yn cael ei ohirio.
Mae nifer o feirdd yn cefnogi Eos - y gymdeithas newydd ar gyfer cyfansoddwyr ac artistiaid Cymraeg.
Mae Eos yn cynrychioli dros 300 o artistiaid Cymraeg.
Maen nhw mewn anghydfod gyda'r 大象传媒 ynglyn 芒 thaliadau i gerddorion.
Fe fydd darllediad y gyfres yn cael ei ohirio tan y bydd cytundeb gydag Eos.
Mewn datganiad fis Rhagfyr dywedodd y tri bardd, Myrddin ap Dafydd, Twm Morys a Meirion MacIntyre Huws: "Oni bydd y 大象传媒 yng Nghymru yn dod i gytundeb gyda chwmni Eos, gan roi cydnabyddiaeth deilwng a chydradd i gyfansoddwyr Cymraeg, byddwn ni - sydd hefyd wedi trosglwyddo hawliau ein caneuon dan fantell Eos - yn tynnu hawliau darlledu ein barddoniaeth yn 么l oddi wrth y 大象传媒 yn ogystal.
"Byddwn yn ymgyrchu i sicrhau bod holl aelodau Barddas a Chwlwm Cyhoeddwyr Cymru yn gwneud yr un modd."
Yn 么l y beirdd, byddai hynny yn effeithio ar ddarllediadau o Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a'r 糯yl Cerdd Dant yn 2013.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2012