大象传媒

Archdderwydd i wrthod cyfrannu

  • Cyhoeddwyd

Mae'r archdderwydd T James Jones, Jim Parc Nest, a'i wraig y llenor Manon Rhys, wedi dweud na fyddan nhw'n cyfrannu i Radio Cymru tra bod y ddadl gydag Eos yngl欧n 芒 thaliadau i gerddorion Cymraeg yn parhau.

Fe wnaed y cyhoeddiad gan y ddau mewn llythyr yn y Western Mail fore Sadwrn.

Mae Eos yn cynrychioli dros 300 o artistiaid Cymraeg.

Maen nhw mewn anghydfod gyda'r 大象传媒 ynglyn 芒 thaliadau i gerddorion.

Dywed Mr Jones ei fod yn anhapus fod y corff sy'n pennu taliadau wedi penderfynu trin Radio Cymru fel radio lleol yn hytrach na gorsaf genedlaethol wrth benderfynu ar daliadau i artistiaid.

Disgrifiad,

Yr archdderwydd T James Jones yn dweud na fydd ef yn cyfrannu i Radio Cymru.

Ychwanegodd ei fod yn teimlo ei bod yn bwysig gwneud safiad ond ei fod hefyd yn ffyddiog y bydd yna gymod yn y pendraw.

Ddechrau'r wythnos fe wnaeth 大象传媒 Radio Cymru gadarnhau eu bod yn gohirio darlledu cyfres newydd o 'Talwrn y Beirdd' o ganlyniad i'r anghydfod.

Roedd nifer o feirdd wedi dweud eu bod yn cefnogi Eos.

A ddydd Sadwrn, yn rali Cymdeithas yr Iaith ym Merthyr Tudful, fe ddwedodd rhai aelodau na fyddan nhw chwaith yn cyfrannu i'r orsaf tan bod y sefyllfa wedi ei datrys.

Dywed 大象传媒 Cymru eu bod yn gweithio yn galed i ddod i gytundeb a'u bod wedi cynnig defnyddio gwasanaeth cymodi annibynnol er mwyn dod 芒'r anghydfod i ben.