Eos: 大象传媒 yn 'gobeithio am gytundeb'
- Cyhoeddwyd
Mae Radio Cymru yn dweud ei bod yn "flaenoriaeth" ceisio cael cytundeb yn y ffrae yngl欧n 芒 thaliadau i gerddorion yr wythnos hon.
Cadarnhaodd Sian Gwynedd, pennaeth rhaglenni a gwasanaethau Cymraeg 大象传媒 Cymru, y byddan nhw'n cynnal cyfarfod arall gydag Eos ddydd Mawrth.
Mae'r gymdeithas newydd ar gyfer cyfansoddwyr ac artistiaid Cymraeg yn cynrychioli dros 300 o aelodau.
Meddai Sian Gwynedd ar raglen y Post Cynta' fore Llun: "Dwi'n gobeithio y bydd y ddwy ochr yn dod i'r trafodaethau ac yn bod yn rhesymol ac yn deg er mwyn cael cytundeb cyn gynted 芒 phosib - dyna ydy'n blaenoriaeth ni.
"Dydy'r sefyllfa ar hyn o bryd ddim er budd neb - yn amlwg, ddim er budd gwrandawyr, ddim er budd gorsaf fel Radio Cymru ac yn sicr ddim er budd y cerddorion chwaith."
Ddechrau'r wythnos fe wnaeth 大象传媒 Radio Cymru gadarnhau eu bod yn gohirio darlledu cyfres newydd o 'Talwrn y Beirdd' o ganlyniad i'r anghydfod.
Roedd nifer o feirdd wedi dweud eu bod yn cefnogi Eos.
'Pryder'
Dros y penwythnos, cyhoeddodd yr Archdderwydd T James Jones, Jim Parc Nest, a'i wraig y llenor Manon Rhys, na fyddan nhw'n cyfrannu i Radio Cymru tra bod y ddadl gydag Eos yn parhau.
Mewn ymateb i hyn, dywedodd Sian Gwynedd: "Yn amlwg, mae cael rhywun o awdurdod a statws yr Archdderwydd, ac yn wir ei wraig, yn rhywbeth sy'n ein pryderu ni.
"Mae 'na lot fawr o barch tuag atyn nhw ac yn amlwg ein blaenoriaeth ni yn ystod hyn ydy cael cytundeb."
Mae Radio Cymru eisoes wedi gorfod cyflwyno nifer o newidiadau i'r amserlen yn sgil yr anghydfod.
"Mi fyddwn ni'n cynnal y gwasanaeth hyd y gorau gallwn ni ond alla' i ddim gwadu na fydd hyn yn mynd yn galetach," meddai Sian Gwynedd.
"Yn amlwg mae'n gyfarfod pwysig ddydd Mawrth. Dwi'n gobeithio, os na fyddwn ni'n gallu dod i gytundeb bryd hynny y byddwn ni'n dal i drafod.
"Mae'r 大象传媒 wastad wedi s么n am ac wedi cynnig cymodi annibynnol fel un ffordd os nad oes yna gytundeb - mae hynny'n dal i fod yn opsiwn.
"Mae'r cerddorion yma'n haeddu cael gwneud bywoliaeth allan o gerddoriaeth Gymraeg ac yn amlwg, o safbwynt Radio Cymru, mae'n bwysig iawn eu bod nhw - 'da ni angen cerddoriaeth Gymraeg o safon, mae o'n asgwrn cefn gwasanaeth fel Radio Cymru.
"Mae'r ddwy ochr yn dal i siarad a dwi'n gobeithio, unwaith y bydd 'na gytundeb y bydd y ddwy ochr yn parhau i siarad ac na fydd hyn yn gwneud niwed parhaol i Radio Cymru a'r berthynas maen nhw wedi ei meithrin dros y blynyddoedd gyda nifer o'r cerddorion yma.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2013