Dim cytundeb hyd yn hyn rhwng Eos a'r 大象传媒

Ffynhonnell y llun, other

Disgrifiad o'r llun, Bydd Eos yn cwrdd 芒 chynrychiolwyr o'r 大象传媒 ym Mangor ddydd Mawrth

Does dim cytundeb rhwng y 大象传媒 a'r asiantaeth hawliau darlledu Eos yngl欧n 芒 thaliadau i gerddorion, awduron a chyhoeddwyr.

Mae'r ddwy ochr wedi bod yn cyfarfod ym Mangor ddydd Mawrth.

Dywedodd Eos eu bod wedi rhoi cynnig newydd i'r 大象传媒 sydd i fod i ymateb erbyn dydd Iau.

Dydi Eos na'r 大象传媒 ddim wedi dweud beth yw'r cynnig.

'Blaenoriaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran y 大象传媒: "Rydym yn dal i drafod gydag Eos, y corff sy'n cynrychioli cerddorion Cymraeg, am yr hawliau darlledu i gerddoriaeth Gymraeg.

"Ein blaenoriaeth ni yw dod i gytundeb sy'n rhesymol ac yn gynaliadwy.

"Mae disgwyl i'r trafodaethau barhau yn hwyrach yr wythnos hon."

Mae Eos yn cynrychioli tua 300 o gerddorion Cymraeg.

"Rydan ni wastad wedi bod yn obeithiol y byddwn ni'n cael cytundeb buan ac rydan ni ychydig yn agosach nag yr oeddan ni," meddai'r cadeirydd, Gwilym Morus.

Disgrifiad o'r sainGareth Glyn yn holi Cadeirydd Eos, Gwilym Morus

"Rydan ni wedi gwneud cynnig sylweddol iawn i'r 大象传媒 ac maen nhw wedi mynd i ffwrdd i ystyried a gobeithio y daw 'na ateb cyn hir.

"'Dan ni ddim isio gweld mwy o niwed i Radio Cymru ... os rhywbeth, 'dan ni eisie gwarchod y gwasanaeth ond mae angen dwyn pwysau ar y 大象传媒 yn Llundain i gamu'n 么l o'r cytundeb sydd ganddyn nhw gyda PRS.

"Rydan ni wedi dod i lawr cryn dipyn yn ein gofynion mewn ymgais y bydd y 大象传媒 yn dod i fyny."

Yn y Cynulliad galwodd Simon Thomas, llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg, am gytundeb buan.

Roedd yn angenrheidiol, meddai, fod cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg yn cael ei chlywed ar Radio Cymru am ei bod yn "denu pobol ifanc i ddefnyddio'r iaith."

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fod angen "setlo'r anghydfod yn gyflym."

Cwtogi

Cyn diwedd 2012 methodd y ddwy ochr 芒 chytuno ar freindaliadau am ddefnyddio cerddoriaeth Gymraeg ar wasanaeth Radio Cymru.

Dydi Radio Cymru ddim yn cael darlledu dros 30,000 o ganeuon poblogaidd Cymraeg ers Ionawr 1.

O ganlyniad mae wedi cwtogi oriau darlledu, ac mae caneuon Saesneg a cherddoriaeth glasurol ac offerynnol yn cael eu chwarae.

Llwyddodd Eos i ddod i gytundeb serch hynny gyda S4C.

Mae pennaeth rhaglenni a gwasanaethau Cymraeg 大象传媒 Cymru, Si芒n Gwynedd, wedi dweud bod cyrraedd cytundeb "yn flaenoriaeth" i'r gwasanaeth a'u bod eisiau dod i gytundeb buan.

Ailystyried

Cyn y cyfarfod ym Mangor dywedodd Eos eu bod yn gobeithio y byddai'r 大象传媒 yn ailystyried eu blaenoriaethau a chynnig mwy o arian am eu cerddoriaeth.

Mae Elan Closs Stephens ar ran ymddiriedolaeth y 大象传媒 wedi dweud: "Nid yw o fudd i neb, gan gynnwys cynulleidfa deyrngar Radio Cymru, fod yr anghydfod hwn yn parhau.

"Rwy'n erfyn ar y ddwy ochr i ddod i gytundeb teg a fforddiadwy er mwyn i Radio Cymru allu unwaith eto ddarparu'r gwasanaeth llawn sydd mor annwyl gan ei chynulleidfa."