Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Trafodaethau 'adeiladol' yn 么l Cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru Rhodri Talfan Davies
Mae cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru wedi disgrifio'r trafodaethau gydag Asiantaeth Hawliau Darlledu Eos fel rhai " adeiladol".
Ond dywedodd Rhodri Talfan Davies bod y gorfforaeth ac Eos yn "bell o gyrraedd cytundeb".
Mae Eos, sy'n cynrychioli tua 300 o gerddorion Cymraeg am i'r 大象传媒 wella'r cynnig yngl欧n 芒 thaliadau i gerddorion, awduron a chyhoeddwyr.
O ganlyniad i'r anghydfod mae Radio Cymru wedi colli'r hawl i ddarlledu 30,000 o ganeuon ers Ionawr 1.
Maen nhw hefyd wedi cwtogi oriau darlledu'r orsaf.
Dydd Mawrth bu trafodaethau rhwng y 大象传媒 ac Eos.
'Anghydfod cymhleth'
Wedi'r cyfarfod dywedodd Eos eu bod wedi rhoi cynnig i'r gorfforaeth a bod ganddyn nhw tan ddydd Iau i ymateb.
"Rydan ni wastad wedi bod yn obeithiol y byddwn ni'n cael cytundeb buan ac rydan ni ychydig yn agosach nag yr oeddan ni," meddai cadeirydd Eos, Gwilym Morus.
"Rydan ni wedi gwneud cynnig sylweddol iawn i'r 大象传媒 ac maen nhw wedi mynd i ffwrdd i ystyried a gobeithio y daw 'na ateb cyn hir."
Dydd Mercher dywedodd Mr Davies bod y ddwy ochr yn dod yn nes ond ychwanegodd bod hwn yn anghydfod cymhleth ac nad oedd yn barod i roi amserlen ar gyfer cytundeb.
"Mae 'na fwlch sylweddol yn parhau, mae pethau wedi agosau ychydig.
"Ddim isio cynnig amserlen...fe ddown ni at gytundeb cyn gynted a bo modd.
"Deall bod 'na gydymdeimlad at y cerddorion gan eu bod wedi colli lot o'u hincwm ond yn y bon yn trafod arian cyhoeddus ac mae'n bwysig bod y setliad yn un teg a chynaliadwy.
"Mae'r 大象传媒 yn gweithredu mewn hinsawdd ariannol anodd dros ben ac mae ganddon ni gyfrifoldeb i gerddorion Cymru ond hefyd i dalwyr y drwydded."
Mae caneuon Saesneg a cherddoriaeth glasurol ac offerynnol yn cael eu chwarae ar Radio Cymru yn y cyfamser.
Llwyddodd Eos i ddod i gytundeb serch hynny gyda S4C cyn y Nadolig.