Tom Parry Jones, dyfeisydd y prawf anadl wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae dyfeisydd y peiriant prawf anadl sy'n cael ei ddefnyddio ar draws y byd i ddal pobl sy'n yfed a gyrru wedi marw yn 77 oed.
Fe greodd Dr Tom Parry Jones OBE, o Borthaethwy ar Ynys M么n, y teclyn yn 1974.
Ac yntau'n gymrawd ym Mhrifysgol Bangor, fe sefydlodd Dr Parry Jones gronfa i annog pobl ifanc i ddilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth a thechnoleg.
Mae Cronfa Dr Tom Parry Jones yn cael ei defnyddio i gynnal G诺yl Wyddoniaeth Bangor yn flynyddol.
Cafodd yr 诺yl ei sefydlu gan gyn fyfyrwyr y brifysgol a'r dyfeisydd i hybu gwyddoniaeth ac entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc.
Teyrnged
Cyhoeddodd Prifysgol Bangor deyrnged i Dr Parry Jones gan ddweud:
"Mae Prifysgol Bangor wedi colli un o'i chyn-fyfyrwyr mwyaf disglair ac amlwg.
"Dyfeisiodd Dr Tom Parry Jones beiriant prawf anadl electroneg cynta'r byd yn 1974, a sefydlodd labordai Lion i weithgynhyrchu a marchnata'r cynnyrch ar draws y byd.
"Fel Cymrawd a raddiodd mewn cemeg ym Mhrifysgol Bangor yn 1958, roedd Tom bob tro'n awyddus i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr i fod yn rhan o fyd gwyddoniaeth a thechnoleg.
"Dros 10 mlynedd yn 么l, arweiniodd rhodd hael gan Tom at sefydlu Cronfa Dr Tom Parry Jones yn y brifysgol gyda'r nod o hybu gwyddoniaeth ac entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc.
"Mae'r gronfa wedi cefnogi ystod eang o weithgareddau er budd disgyblion ysgolion gogledd Cymru, gan gynnwys G诺yl Wyddoniaeth Bangor - g诺yl flynyddol a fydd yn cael ei chynnal am y trydydd tro ym mis Mawrth eleni.
"Roedd Tom a'i wraig Dr Raj Parry Jones, yn adnabyddus i lawer o staff a chyn fyfyrwyr Prifysgol Bangor. Roedd ei enw da yn fyd eang a'i frwdfrydedd heintus dros ddatblygu economi Cymru drwy sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn cefnogaeth wrth ddatblygu eu gwybodaeth wyddonol yn golygu ei fod yn drysor ymysg cyn fyfyrwyr Prifysgol Bangor."