Eos: AS am i lywodraeth ymyrryd

Ffynhonnell y llun, other

Disgrifiad o'r llun, Gallai proses gymodi annibynnol ystyried yr anghydfod rhwng Eos a'r 大象传媒

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams, wedi galw ar Lywodraeth y DU i ymyrryd yn y ffrae rhwng y 大象传媒 ac Eos, yr asiantaeth hawliau cerddorol.

Ei gynnig oedd bod T欧'r Cyffredin "yn credu bod y berthynas rhwng y 大象传媒 a'r PRS yn codi cwestiynau yngl欧n 芒 monopol茂au yn y diwydiant cerdd a bod angen i'r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ymchwilio i'r mater ar frys".

Dywedodd y dylai'r anghydfod gael ei ddatrys "ar frys" am ei fod yn cael "effaith negyddol ar ddarlledu cyhoeddus".

Dywedodd Gweinidog y Swyddfa Gymreig, Stephen Crabb, nad oedd hwn yn fater i'r llywodraeth am fod "hon yn drafodaeth gytundebol rhwng y 大象传媒 ac artistiaid".

"Serch hynny, rwy'n gobeithio y bydd y mater yn cael ei setlo."

Bryn F么n

Gwahoddodd Plaid Cymru y canwr Bryn F么n, ysgrifennydd Eos, i'r Senedd yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Dywedodd na fyddai o blaid trefn cymodi annibynnol.

"Bydd rhaid i ni gael cytuneb ... ond mae cymodi annibynnol yn rhyw fath o ymarfer. Ticio bocsus ydi o."

Mae Eos, sy'n cynrychioli tua 300 o gerddorion Cymraeg, am i'r 大象传媒 wella'r cynnig yngl欧n 芒 thaliadau i gerddorion, awduron a chyhoeddwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran 大象传媒 Cymru: "Ein safbwynt ni yw ein bod yn cytuno'n llwyr ag Eos y dylai'r datrysiad fod yn deg ac y dylid setlo'r mater cyn gynted 芒 phosibl.

"Dyna pam ein bod yn annog Eos i ymateb i'r cynnig am gymodi annibynnol yn gyflym fel bod modd ennill tir."

Proses gymodi

Doedd 'na ddim cytundeb rhwng y 大象传媒 ac Eos wedi'r trafodaethau diweddara' yr wythnos ddiwethaf gyda phosibilrwydd y bydd yr anghydfod yn para am dros fis.

Ond mae'r 大象传媒 yn dweud bod Eos wedi cytuno i ystyried bod yn rhan o broses gymodi annibynnol.

Yn lle defnyddio corff cymodi swyddogol mae'r gorfforaeth wedi dweud y byddai'n fwy tebygol mai person annibynnol fydd yn cynnal y broses - cyfreithiwr neu arbenigwr yn y diwydiant.

Mae'r 大象传媒 yn cynnig talu am y broses.