大象传媒

'Diffyg hyder' mewn bwrdd iechyd

  • Cyhoeddwyd
ysbyty Blaenau Ffestiniog
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ysbyty Blaenau Ffestiniog ymhlith y pedwar fydd yn cau.

Fe fydd Cyngor Sir Conwy yn trafod cynnig o ddiffyg hyder yn rheolwyr bwrdd iechyd.

Mae cynghorwyr y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi arwyddo'r cynnig yn sgil penderfyniad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i wneud nifer o newidiadau dadleuol, gan gynnwys cau pedwar ysbyty cymunedol.

Bydd y cyfarfod ddydd Llun, Ionawr 28.

Geiriad y cynnig yw: "Mae'r cyngor wedi colli ffydd yng ngallu uwchreolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu gwasanaethau iechyd digonol ac effeithlon i bobl Conwy.

"Rydym yn galw ar Weinidog Llywodraeth Cymru i ymyrryd, gwrthod penderfyniadau'r bwrdd iechyd a rheoli'r Gwasanaeth Iechyd yn y gogledd yn uniongyrchol."

Galw ar gynghorau eraill

Mae'r cynnig yn galw ar gynghorau eraill y gogledd i weithredu yn yr un modd ac yn galw ar y Cynghorau Iechyd Cymuned i gyfeirio penderfyniadau'r bwrdd iechyd i'r Gweinidog Iechyd.

Fe benderfynodd y bwrdd fis diwethaf y dylid cau ysbytai Blaenau Ffestiniog, Y Fflint, Llangollen a Phrestatyn.

Bryd hynny dywedodd cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yr Athro Merfyn Jones bod cyfarfod y bwrdd wedi bod yn un hir a thrylwyr, gyda phob un o'r argymhellion a drafodwyd wedi eu cyflwyno gan feddyg.

"Dwi'n deall pam bod pobl mewn rhai lleoliadau yn siomedig", meddai'r Athro Jones.

"Yn yr ardaloedd hynny ble mae'r ysbytai yn mynd i gael gwasanaeth llawer gwell, dydy pobl ddim o'r un farn ond dwi'n deall hynny'n iawn ac mae angen i ni drafod ymhellach gyda chyfeillion yn y cymunedau hynny.

'Sialens

"Mae natur afiechydon yn newid oherwydd bod natur y boblogaeth yn newid, mae pobl yn byw llawer yn h欧n, mae pobl yn dioddef o afiechydon cronig, sydd ddim o reidrwydd angen iddyn nhw fynd i ysbyty.

"Mae'n debyg fod yn agos i 40% o bobl sydd yn ein hysbytai ni ddim angen bod yno. Felly'r sialens i'r gwasanaeth iechyd ar gyfer y dyfodol ydy sicrhau bod gynnon ni ddarpariaeth yn y cartre' ac yn agos i'r cartre' ar gyfer cleifion.

"Mae hwnnw gynnon ni mewn rhannau o Sir Ddinbych yn barod ac mi fydd y cynllun yma yn cael ei fabwysiadu ar draws y gogledd a dyna fydd yn allweddol bwysig yn nyfodol y gwasanaeth iechyd.

"'Dan ni'n s么n yn fan hyn am dimoedd arbenigol gyda chyfrifoldebau mawr, newydd mewn ffordd.

"Meddygon teulu fydd yn arwain hyn i gyd ... 'dan ni'n s么n am ofal cynhwysfawr ar gyfer cleifion yn eu cartre'."

Dywedodd bod angen ysbytai arbenigol lle y gall pobl sy'n wirioneddol wael gael y gofal gorau, ond bod y bwrdd hefyd am sicrhau nad yw pobl yn gorfod mynd i'r ysbyty heb fod angen.