Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cofio arloeswr
Cafodd llun o'r naturiaethwr o Gymru, Alfred Russel Wallace, ei ddadorchuddio yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain nos Iau.
Mae'n cael ei gofio'n bennaf am ddod o hyd i ddamcaniaeth esblygiad drwy ddetholiad naturiol yn annibynnol ar Charles Darwin.
Mae'n debyg nad oedd Darwin wedi cyhoeddi ei ddamcaniaeth tan i Wallace gytuno 芒 hi.
Eleni yw canmlwyddiant marwolaeth Wallace, a'r digrifwr Bill Bailey, noddwr y gronfa goffa, oedd yn dadorchuddio'r llun.
Fe roddwyd y llun i'r amgueddfa yn 1923 ac mae wedi cael ei drwsio a'i lanhau.
Ysgolion
Ddydd Mawrth yn y Senedd dywedodd Y Prif Weinidog Carwyn Jones nad oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i goff谩u ei fywyd a'i waith eleni.
Ond wrth gydnabod nad oedd y rhan fwyaf o blant yng Nghymru wedi clywed am Wallace, ychwanegodd: "Dyna pam mae'n bwysig inni sicrhau bod pobl yn clywed amdano a'i waith yn ystod y canmlwyddiant hwn.
"Dyna pam mae Theatr na N'脫g yn mynd ar daith o gwmpas ysgolion a hynny er mwyn sicrhau bod plant yn gwybod mwy am Wallace a'i waith".
Roedd syniadau Wallace yn debyg i rai Darwin ond Darwin erbyn hyn sydd fwyaf enwog.
Mae 154 blynedd ers i Darwin gyhoeddi ei waith enwocaf, On The Origin Of Species.
Roedd y llyfr yn trafod damcaniaeth chwyldroadol am sut y daeth dynolryw i fodolaeth.
Ond flwyddyn cyn i'r llyfr gael ei gyhoeddi, fe anfonodd Wallace lythyr at Darwin o ynys Ternate yn Indonesia a thraethawd yn nodi syniadau tebyg.
Fe gyhoeddodd ddwy erthygl mewn papur ym mis Awst 1858 ond ni chafodd ei waith fawr o sylw.
Tirfesurydd
Pan gyhoeddwyd On The Origin Of Species flwyddyn yn ddiweddarach tra roedd Wallace yn dal yn Indonesia roedd yr effaith yn syfrdanol.
Ganwyd Wallace yn Llanbadog ger Brynbuga yn Sir Fynwy yn 1823 - yr wythfed o naw o blant.
Dechreuodd ei ddiddordeb mewn natur pan oedd yn dirfesurydd gyda'i frawd yng Nghastell-nedd.
Fe deithiodd i Dde America a'r Dwyrain Pell a chyhoeddi mwy nag 20 o lyfrau a channoedd o erthyglau.