大象传媒

125,000 yn gwrando ar Radio Cymru bob wythnos

  • Cyhoeddwyd
Stiwdio radioFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ffigyrau yn cyfeirio at y cyfnod hyd at Ragfyr 2012

Yn 么l y corff sy'n amcangyfrif nifer y gwrandawyr radio, mae tua 125,000 o bobl yn gwrando ar Radio Cymru bob wythnos.

Dywed RAJAR fod hyn 9,000 yn is na'r un adeg y llynedd.

Mae'r ffigyrau yn cyfeirio at y cyfnod hyd at Ragfyr 2012, ac felly yn cynnwys tri mis cyntaf yr amserlen newydd.

Mae gwrandawyr Radio Cymru yn parhau i wrando am 10.9 awr yr wythnos ar gyfartaledd, ac mae'r gyfradd o wrandawyr ymysg siaradwyr Cymraeg yn 18.7% sydd hefyd yn parhau'n weddol gyson.

Y prif newidiadau i'r amserlen ar Hydref 1 oedd croesawu'r newyddiadurwraig Iola Wyn i gyflwyno ei rhaglen ei hun bob dydd rhwng 10.30 a 12.30pm o Gaerfyrddin, a Nia Roberts yn darlledu rhwng 2.30pm a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau, gyda Tudur Owen yn cyflwyno ar brynhawn Gwener.

Mae'r ystadegau diweddara'n awgrymu bod y nifer sy'n gwrando ar Radio Wales yn wythnosol, sef 436,000, wedi gostwng 32,000 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol