大象传媒

Cyfrifiad: 'Angen ewyllys y bobl'

  • Cyhoeddwyd
CyfrifiadFfynhonnell y llun, Other

Mae gwleidyddion a mudiadau wedi bod yn ystyried y ffordd ymlaen i'r iaith Gymraeg yn dilyn ystadegau Cyfrifiad 2011 a gyhoeddwyd ddydd Mercher.

Yn 2001 roedd 59 o wardiau lle oedd mwy na 70% o bobl yn siarad yr iaith ond roedd hyn wedi gostwng i 49 erbyn 2011.

Mae'r wardiau hyn yn y gogledd, un yng Nghonwy a'r gweddill yng Ngwynedd ac Ynys M么n.

Datgelwyd ym mis Rhagfyr fod 19% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg yng Nghymru yn 2011, o'i gymharu 芒 21% yn 2001.

'Siop siarad arall'

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi dweud bod y canlyniadau diweddara'n "her i weithredu".

Fe fyddai'n sefydlu Arsyllfa i graffu ar oblygiadau polis茂au a chynlluniau fyddai'n effeithio ar gymunedau a siaradwyr Cymraeg.

Roedd polisi economaidd, gwaith a thai yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau, meddai.

"Nod yr Arsyllfa yw datblygu canllawiau ac argymhellion i'w cyflwyno i wneuthurwyr polisi fel y gallant weithredu'n gadarnhaol ac ymarferol mewn perthynas 芒'r Gymraeg.

"Bydd yr opsiynau polisi y byddwn yn eu cyflwyno yn rhai strategol a radical a byddant wedi eu seilio ar drafodaeth ddinesig agored a thystiolaeth gadarn.

"Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn tynnu ynghyd yr wybodaeth ac ymchwil sydd eisoes ar gael, ac yn gweithio tuag at gynhyrchu a chomisiynu rhagor o ymchwil yn y maes."

Ond gwrthod hynny wnaeth cyn brif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, John Walter Jones.

Dywedodd yntau fod angen camau ymarferol ar frys yn hytrach na "siop siarad" arall a'i fod yn amau'n fawr a fyddai sefydlu arsyllfa yn cyflawni unrhyw beth.

Cynllunio

Dywedodd mudiad Dyfodol yr Iaith fod angen sefydlu Arolygiaeth Gynllunio ar wah芒n i Gymru fel mesur i warchod y Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

Dywedodd llywydd y mudiad, Bethan Jones Parry: "Mae angen i wleidyddion yn y Cynulliad ystyried hyn ar frys er mwyn sicrhau bod ymdrechion i hybu'r iaith dros y deng mlynedd nesaf ddim yn cael eu difrodi gan benderfyniadau cynllunio ac economaidd.

"Mae'n amlwg bellach fod angen i'r iaith Gymraeg fod yn rhan o gynllunio economaidd a chynllunio tai. Mae angen i ddatblygiadau tai flaenoriaethu effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg.

"Ar hyn o bryd mae un arolygiaeth gynllunio i Gymru a Lloegr, felly mae cynllunio yn seiliedig ar anghenion y ddwy wlad.

"Dyna sy'n gyfrifol am y nifer annerbyniol o dai ymhob Cynllun Datblygu Lleol ein cynghorau.

"Mae nifer o ffactorau sy'n cyfrannu at y dirywiad yn yr iaith Gymraeg gan gynnwys methiant ymdrechion siaradwyr Cymraeg i drosglwyddo'r iaith i'w plant.

"Ond gall ffactorau niweidiol cynllunio ac economaidd danseilio'r ymdrechion gorau i warchod yr iaith."

'Angen ewyllys'

Roedd yr Aelod Cynulliad oedd 芒 chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg yn llywodraeth glymblaid Llafur a Phlaid Cymru yn y Cynulliad cyn 2010, Alun Ffred Jones, yn cytuno.

Ar raglen y Post Cyntaf dywedodd: "Fe fyddwn i'n croesawu hynny er nad yw hynny'n ateb ynddo fo'i hun.

"Yn sicr mae angen arolygiaeth gynllunio annibynnol i Gymru, oes, ond ar 么l dweud hynny un rhan o'r jig-so yw hynny ac mae'n rhaid i ni dynnu pob agwedd o lywodraeth ac ewyllys y bobl at ei gilydd.

"Nid dim ond problem y llywodraeth ydi hyn - mae'n rhaid i ni hefyd edrych ar batrymau cymdeithasol a beth mae pobl ifanc yn ei wneud.

"Nid trwy ddeddfu'n unig y mae newid sefyllfa fel hyn - mae'n rhaid iddo ddod o ewyllys y bobl.

"Os nad yw pobl isho i'r iaith barhau, yna neith hi ddim parhau."

Hefyd gan y 大象传媒

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol