大象传媒

Atgofion protestwyr Pont Trefechan 50 mlynedd yn ddiweddarach

  • Cyhoeddwyd
Protest Pont TrefechanFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Protest Pont Trefechan

Wedi eu tanio gan ddarlith eiconig Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, nod y myfyrwyr a gynhaliodd brotest gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan yn 1963 oedd herio'r heddlu er mwyn cael gw欧s i ymddangos o flaen llys.

Ond fe brofodd yn anoddach nag yr oedden nhw wedi ei ddisgwyl yn 么l y rhai fu'n hel atgofion ar gyfer rhaglen arbennig i ddathlu 50 mlwyddiant y brotest ar Radio Cymru.

Dan arweiniad E. G. 'Tedi' Millward a John Davies, trefnodd y mudiad iaith newydd brotest yn Aberystwyth ar Chwefror 2, 1963.

Y flwyddyn gynt roedd yr awdur Gareth Miles wedi ei garcharu ar 么l gwrthod ymddangos yn y llys am iddo dderbyn gw欧s uniaith Saesneg ac roedd hyn wedi sbarduno eraill i weithredu er mwyn gallu gwneud yr un safiad.

Doedd neb yn gwybod beth yn union roedden nhw'n mynd i'w wneud ar y diwrnod.

Meddai Meic Stephens a oedd newydd ddechrau dysgu Cymraeg ar y pryd: "Ro'n i yno oherwydd fy mod i wedi derbyn llythyr gan John Davies, ysgrifennydd Cymdeithas yr Iaith, i ddod i Aberystwyth ar y diwrnod hwnnw achos roedd rhywbeth yn mynd i ddigwydd. Doeddwn i ddim yn gwybod beth.

"Ro'n ni am greu st诺r, ro'n ni am herio yr heddlu er mwyn cael gw欧s yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. Doedd dim llawer o ots beth oedd yn mynd i ddigwydd, roedden ni yno i greu helynt," meddai.

Dim ymateb gan yr heddlu

Aeth yr aelodau ati i osod posteri ar adeiladau cyhoeddus yn y dref yn galw am 'Statws Swyddogol i'r Gymraeg' gan felly dorri is-ddeddf eiddo cyhoeddus.

Targedwyd y swyddfa bost a oedd mewn lle amlwg ynghanol y dre.

Ond, er creu syndod ymhlith trigolion y dref oedd yn cerdded heibio, wnaeth yr heddlu ddim cymryd yr abwyd a chafodd neb w欧s am dorri'r gyfraith.

Gyda nifer o ohebwyr o bapurau newydd fel y Times a'r Daily Mirror yno yn disgwyl pethau mawr, ceisiodd yr arweinwyr eu gorau i gael ymateb gan yr heddlu meddai Dr John Davies.

"Dwi'n cofio Tedi Millward a fi yn mynd i swyddfa'r heddlu ac yn dweud 'mae na bobl yn troseddu fan hyn, pam na wnewch chi rywbeth amboiti fe?'

"Fel 'sen ni'n aelodau o'r cyhoedd oedd yn becso fod y math yma o anwadalwch yn digwydd. Edrychon nhw arnon ni fel tase nhw ddim yn credu gair ro'n ni'n gweud."

'T芒n yn eu boliau'

Er mawr siom i'r protestwyr, fe benderfynon nhw roi'r gorau iddi gan gasglu yn yr Home Caf茅 i drafod beth i'w wneud nesa'.

Yn 么l yr ymgyrchwyr roedd nifer o bobl 芒 'th芒n yn eu boliau' yno y diwrnod hwnnw a oedd yn teimlo bod rhaid gwneud 'rhywbeth mawr' a fyddai'n creu argraff ar bobl y dref er mwyn i'r heddlu orfod ymyrryd.

Un ohonynt oedd Gwyneth Hunkin, sy'n dweud: "Roedd yr arweinwyr, Tedi Millward a Bwlchyllan [John Davies], yn dweud 'wel dyna fo mae'r peth wedi bod yn aflwyddiannus, mi awn ni adra r诺an' a phenderfynu ar ffordd arall i'w wneud o.

"Ond roedd na rai ohonon ni yn dweud 'na' mae'n rhaid i hyn lwyddo heddiw."

Ar hap felly y dewisiwyd Pont Trefechan fel lleoliad eu protest: penderfynwyd y bydden nhw'n eistedd ar y ffordd yno er mwyn rhwystro pobl rhag dod i mewn ac allan o'r dre a gorfodi'r heddlu i'w harestio.

'Adrenalin'

Ond nid pawb oedd yn cytuno ar y newid trywydd.

"Mae'n rhaid ifi gyfadde," meddai John Davies "do'n i ddim yn frwd o blaid hynny achos doedd e ddim beth roedden ni wedi ei gynllunio a rhyw bryder ein bod ni'n dechrau ar lwybr anarchiaeth oedd ddim cystal 芒'r llwybr oedd wedi cael ei gynllunio'n fanwl, a throseddau digon diniwed - dyna beth oedd y bwriad ar y dechrau."

A hithau'n oer ac eira mis Ionawr prin wedi dadmer, eisteddodd tua 30 o fyfyrwyr ar y ffordd darmac gan rwystro ceir a bysus rhag mynd heibio.

"Ro'n i'n gobeithio y byddai'r heddlu yn dod ac yn ein harestio ni ac ro'n i'n gobeithio mynd i'r llys a chael gwysion yn Gymraeg neu yn ddwyieithog a dyna beth oedd yn pwmpio'r adrenalin - bod rhywbeth mawr yn mynd i ddigwydd," cofia Meic Stevens.

Er mai protest heddychlon oedd hi mae'r protestwyr yn cofio bod torf eitha gelyniaethus yn eu gwylio ac yn annog y ceir ymlaen.

'Methiant'

Ond cadw draw wnaeth yr heddlu y tro hwn hefyd: "Gymrodd yr heddlu ddim sylw," meddai John Davies eto.

"Gwylio o bell wnaethon nhw. Daethon nhw lawr i'r bont a gweld beth oedd yn digwydd ond wnaethon nhw gymryd dim sylw o gwbl ar y rhagdybiaeth, gan ei bod hi mor oer, y bydden ni'n clirio o'na ymhen yr awr!

"Gath neb ei arestio felly fe allech chi weud fod y brotest gynta wedi bod yn fethiant llwyr gan fod union nod y brotest wedi cael ei hanwybyddu a ddim wedi cael ei chyflawni."

Roedd llawer o'r aelodau oedd yno'r diwrnod hwnnw yn siomedig na lwyddon nhw yn eu nod ond cafodd y digwyddiad lawer iawn o sylw.

"Dangosodd y sylw ym mhob rhan o'r wasg yn dilyn y brotest cymaint o sioc gafodd y wasg o weld myfyrwyr Cymreig yn defnyddio tactegau o'r fath," meddai Gwilym Tudur adeg dathlu pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith yn 50.

"Y teimlad mwy bendigedig oedd y teimlad ein bod ni'n gwneud rhywbeth, yn hytrach na siarad am wneud rhywbeth," meddai Meic Stephens.

"Roedd 'na ddigon o siarad yn rhengoedd Plaid Cymru ond dyma gyfle i wneud rhywbeth, dim llawer o ots beth ... fe wnaethon ni gychwyn rhywbeth o bwys."

I glywed mwy o atgofion a hanes y diwrnod gwrandewch ar ar Radio Cymru am 17:00 ddydd Sul Chwefror 3, 2013.

Hefyd gan y 大象传媒

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol