Clyw: 'Methu 芒 dilyn y gyfraith'
- Cyhoeddwyd
Mae byrddau iechyd Cymru yn methu 芒 chydymffurfio 芒'r gyfraith trwy beidio 芒 darparu gwasanaethau hygyrch i bobl fyddar a thrwm eu clyw.
Mae ymchwiliad gan 大象传媒 Cymru wedi dangos bod pob un o'r byrddau iechyd wedi methu 芒 sefydlu polis茂au i wella hygyrchedd - fe ddylid fod wedi cyhoeddi'r polis茂au erbyn mis Rhagfyr y llynedd.
Mae adroddiad ar wah芒n yn dangos bod 90% o feddygon teulu yng Nghymru yn methu 芒 darparu dulliau eraill rhesymol i bobl fyddar i drefnu apwyntiadau.
Dywedodd cyfarwyddwr mudiad Hearing Loss Cymru, Richard Williams, nad yw byrddau iechyd yn cydymffurfio 芒 gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010.
Yn 么l Mr Williams: "Dyw pobol sy'n medru clywed ddim yn gorfod cerdded i'r feddygfa i drefnu apwyntiad neu ofyn i rywun arall i alw ar eu rhan.
"Os nad ydych yn medru defnyddio'r ff么n, mae'n dipyn o gamp i drefnu apwyntiad".
Bwcio
Wrth ymateb, dywedodd y saith bwrdd iechyd bod ganddyn nhw ddarpariaeth ar gyfer pobol fyddar - megis medru bwcio rhai apwyntiadau ar-lein a medru bwcio cyfieithwyr iaith arwyddo - ond maen nhw'n ceisio gwella mynediad i bobl fyddar a thrwm eu clyw.
Cyhoeddwyd adroddiad gan Lywodraeth Cymru - mewn cydweithrediad ag Action on Hearing Loss, Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG a mudiadau eraill - ym mis Ionawr y llynedd i wella mynediad i bobl gyda thrafferthion clyw.
Fe wnaeth adroddiad 'Gofal Iechyd Hygyrch i Bobl sydd wedi Colli Defnydd eu Synhwyrau yng Nghymru' argymell y dylai pob bwrdd iechyd sicrhau bod ganddyn nhw bolisi mewn lle i wella mynediad erbyn Rhagfyr 2012.
Does dim un o'r byrddau iechyd wedi sefydlu polisi o'r fath ac mae pob un ond un yn aros am gopi ddrafft sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru ac a fydd yn barod erbyn diwedd 2013.
Tri cham
Dywedodd Wendy Callaghan, sy'n drwm ei chlyw ac yn byw ym Medwas, ger Caerffili y byddai tri cham syml yn helpu yn fawr:
"Dylai fod cyfieithwyr iaith arwyddo ar alw. Hefyd dylid arddangos enwau ar sgriniau mewn ystafelloedd aros - mae pobol yn colli apwyntiadau oherwydd eu bod nhw ddim yn clywed eu henwau yn cael eu galw.
"Yn drydydd, os oes angen apwyntiad brys arna i, byddai'n dda pe byddai modd anfon neges destun neu e-bost."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2013