EOS: Adfer y gerddoriaeth?
- Cyhoeddwyd
Mae un o aelodau bwrdd EOS wedi awgrymu y gallai cerddoriaeth aelodau'r corff trwyddedu gael ei chwarae eto ar donfeddi Radio Cymru tra bod y trafodaethau gyda'r 大象传媒 yn parhau.
Ers Ionawr 1, does gan 大象传媒 Radio Cymru ddim hawl i ddarlledu gwaith dros 300 o artistiaid sy'n aelodau o EOS oherwydd anghydfod am daliadau hawlfraint am eu gwaith.
Mae EOS yn cynnal cyfarfodydd cyffredinol blynyddol i drafod y ffrae gyda'r 大象传媒 yngl欧n 芒 thaliadau i gerddorion, awduron a chyhoeddwyr, y cynta' yng Nghaerdydd nos Fawrth a'r ail yng Nghaernarfon nos Wener.
Er na fydd yna unrhyw bleidlais, dywedodd EOS fod y cyfarfodydd yn gyfle i'w haelodau fynegi barn.
'Colli gwrandawyr'
Ar y Post Cyntaf fore Mawrth dywedodd Dafydd Roberts o EOS bod y ddwy ochr wedi bod yn trafod a llythyru'n gyson dros yr wythnos diwethaf.
"Mae'n bosib iawn y bydd cyhoeddiad cyn bo hir hwyrach bod modd adfer y gerddoriaeth i Radio Cymru tra ydan ni'n dal i drafod.
"Mae hynny yn opsiwn, yn sicr.
"Rydym wedi bod yn ildio tir drwy'r misoedd i gyd - dyna yw trafod, mae un ochr yn ildio ac mae'r llall yn ildio.
"Rydym yn bryderus wrth gwrs am Radio Cymru. Dydyn ni ddim isho gweld Radio Cymru yn colli gwrandawyr, felly rhan o'r trafodaethau yw adfer y gerddoriaeth tra bod y trafodaethau'n parhau.
"Radio Cymru yw'n radio cenedlaethol ni, ac rydym am sicrhau bod hwnnw'n parhau. Mae nifer o bethau'n digwydd cyn bo hir - C芒n i Gymru, (Eisteddfod) yr Urdd ac yn y blaen - a 'dan ni ddim yn credu ei bod yn deg y byddai unrhyw un sydd wedi bod yn trefnu ers dwy flynedd yn colli'r cyfle i glywed perfformwyr ar y radio."
Cwtogi oriau
Mae'r 大象传媒 wedi cynnig mynd 芒'r trafodaethau gerbron cymodwr annibynnol ond mae rhai aelodau o EOS eisoes wedi dweud na fyddan nhw o blaid hynny.
Roedd y cerddor Bryn F么n wedi dweud: "Bydd rhaid i ni gael cytundeb ... ond mae cymodi annibynnol yn rhyw fath o ymarfer. Ticio bocsys ydi o."
Mae EOS, sy'n cynrychioli tua 300 o gerddorion Cymraeg, am i'r 大象传媒 wella'r cynnig yngl欧n 芒 thaliadau i gerddorion, awduron a chyhoeddwyr.
Ers Ionawr 1 eleni dyw Radio Cymru ddim wedi gallu chwarae dros 30,000 o ganeuon Cymraeg.
Bu'n rhaid iddyn nhw hefyd gwtogi oriau darlledu'r orsaf.
Mae caneuon Saesneg a cherddoriaeth glasurol ac offerynnol yn cael eu chwarae ar Radio Cymru ar hyn o bryd.
Llwyddodd EOS i ddod i gytundeb serch hynny gyda S4C cyn y Nadolig.
Mae cyfarfodydd cyffredinol EOS rhwng 6:00pm ac 8:00pm yng nghanolfan y Chapter yng Nghaerdydd nos Fawrth ac yn Galeri Caernarfon nos Wener.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2013