Tribiwnlys i ddatrys anghydfod Eos a Radio Cymru?
- Cyhoeddwyd
Mae Cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru, Rhodri Talfan Davies, wedi dweud ei fod yn obeithiol o hyd fod modd cael cytundeb gydag Eos heb fynd i dribiwnlys hawlfraint ond mae'n cyfaddef bod yna "fwlch sylweddol" yn parhau rhwng y ddwy ochr.
Ers dechrau'r flwyddyn dyw Radio Cymru ddim wedi cael chwarae dros 30,000 o ganeuon Cymraeg oherwydd anghydfod gydag Eos sy'n cynrychioli buddiannau nifer o gyfansoddwyr a cherddorion Cymraeg.
Dywedodd Cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru fod opsiwn tribiwnlys yn bwysig: "Dwi'n meddwl bod yna ewyllys da, a byddai'n well gen i ddod i gytundeb heb orfod mynd i wrandawiad tribiwnlys a dyna rydyn ni'n parhau i weithio i'w gyflawni.
"Ond beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n glir yngl欧n 芒'r broses. Os nad ydyn ni'n medru dod i gytundeb parhaol trwy gynnal trafodaethau gydag Eos dros yr wythnosau nesaf, byddai gwrandawiad tribiwnlys yn sicrhau bod yr holl ddadleuon yn cael eu clywed ac y gellid cyrraedd penderfyniad teg a thryloyw ...."
Ond dywedodd Dafydd Roberts o Eos ei fod "yn siomedig iawn" oherwydd penderfyniad y 大象传媒 i fynd i dribiwnlys.
Ychwanegodd fod Eos wedi cynnig trwydded dros dro i'r 大象传媒 yr wythnos diwethaf er mwyn caniat谩u i Radio Cymru chwarae cerddoriaeth Gymraeg tra bod y trafodaethau yn parhau.
'Gweithio'n galed'
Dywedodd Cyafarwyddwr 大象传媒 Cymru eu bod eisoes wedi cynnig hyd at 拢50,000 o ran costau cyfreithiol Eos.
"Ond mae'r tribiwnlys eisoes wedi dweud y byddan nhw eisiau gweithio'n galed ac yn agos gyda ni a chydag Eos i leihau'r costau ac i sicrhau bod yna broses drefnus a chyflym i ddod i ddatrysiad.
"Maen nhw'n arbenigwyr materion hawlfraint. Nhw sydd ag arbenigedd mewn pwyso a mesur gwerth masnachol, dyna maen nhw'n 'i neud o ddydd i ddydd."
Daeth hi'n amlwg nos Fawrth fod y 大象传媒 wedi gofyn i'r tribiwnlys ddod i Gymru.
Dywedodd Mr Davies y byddai'n gyfle "i Eos ac o bosib i bart茂on eraill ddod i'r tribiwnlys i sicrhau bod modd mesur nid dim ond gwerth masnachol ond gwerth diwylliannol y gerddoriaeth yma, sy'n amlwg yn sylweddol, bod yna ddealltwriaeth glir o'r gwerth hynny yn y tribiwnlys.
'Adfer perthynas'
"Fydden ni ddim yn dechrau'r broses tribiwnlys pe byddai pethau wedi agos谩u yn sylweddol".
Mae'n dadlau bod rhaid i'r 大象传媒 weithredu er lles talwyr ffi'r drwydded yn ogystal ag er lles y cerddorion.
"Wrth gwrs, mae'r cerddorion yma'n bwysig i Radio Cymru, mae Radio Cymru yn hollbwysig i'r cerddorion hefyd.
"Mae'n berthynas agos a chreadigol iawn, ac mae'n bwysig ein bod ni'n adfer y berthynas yna mor fuan 芒 phosib."
Ar y Post Cyntaf dywedodd Dafydd Roberts o Eos ei fod yn siomedig iawn.
"Mi oedd Eos wedi derbyn cynnig wnaeth y 大象传媒 ar yr 11eg o Ionawr, ond roedd yr amodau ddaeth ynghlwm 芒'r cynnig yna yn amhosib i gorff trwyddedu eu derbyn.
'Paratoi'
"Felly mae'n ymddangos mai sham oedd y trafodaethau i gyd, a bod y 大象传媒 yn y cyfamser wedi bod yn paratoi dogfennau a thystiolaeth ar gyfer y tribiwnlys."
"Pan fyddwn ni yn rhoi ein hachos ni o flaen y tribiwnlys, mi fydd y penderfyniad allan o ddwylo Eos.
"Mi fydd hefyd allan o ddwylo'r 大象传媒 ac felly o'n profiad ni o drafod efo'r 大象传媒, gall hynny fod yn beth eitha' da.
"'Dan ni wedi cynnig trwydded dros dro gan ein bod ni yn bryderus am sefyllfa Radio Cymru ond 'dan ni ddim yn si诺r iawn pam felly bod y 大象传媒 hefyd wedi mynd i'r tribiwnlys i gael trwydded dros dro.
"Mae hynny wedi cael ei gynnig iddyn nhw ddydd Gwener diwethaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2013