大象传媒

Canser: Unigrwydd yn destun pryder

  • Cyhoeddwyd
Claf yn derbyn triniaeth canser
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymchwil yn awgrymu bod nifer o gleifion yn teimlo nad ydyn nhw'n cael digon o gefnogaeth gan eu teuluoedd a'u ffrindiau

Mae bron un o bob pum person sy'n cael diagnosis o ganser yng Nghymru yn teimlo nad ydyn nhw'n cael digon o gefnogaeth gan eu teuluoedd a'u ffrindiau.

Yn 么l Cymorth Canser Macmillan mae gan dros hanner (53%) gweithwyr iechyd proffesiynol Cymru gleifion sydd wedi dewis peidio 芒 chael triniaeth o'r herwydd.

Dywed Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru, fod yr ymchwil yn "dangos y gall teimlo'n ynysig gael effaith ddinistriol ar bobl sy'n byw gyda chanser.

Disgrifiad,

Adroddiad Dafydd Evans

"Mae cleifion yn mynd heb fwyd, yn colli apwyntiadau meddygol a hyd yn oed yn penderfynu gwrthod triniaeth yn gyfan gwbl a allai roi eu bywydau mewn perygl - a hynny i gyd oherwydd diffyg cefnogaeth."

Amcangyfrifir y bydd y nifer o bobl sy'n byw gyda chanser yng Nghymru yn dyblu o 120,000 i 240,000 erbyn 2030.

Gofal

Dywed Ms Morris ei bod hi o'r farn y bydd teimlo'n ynysig yn broblem gynyddol a bod angen i ni fynd i'r afael 芒'r broblem.

Un sydd 芒 phrofiad o effaith canser ar deulu yw'r ddarlledwraig a'r awdures Carolyn Hitt.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Carolyn Hitt a'i diweddar fam, June

Fe gollodd hi ei mam, June, y llynedd, saith mis ar 么l iddi gael diagnosis o ganser yr ysgyfaint.

Yn 么l Carolyn, er bod ei mam wedi cael yr holl gariad, gofal a chymorth ymarferol roedd eu hangen arni gan ei hanwyliaid a'i ffrindiau, roedd ei theulu yn ei chael hi'n anodd iawn trafod ei salwch.

Salwch terfynol

Dywedodd: "Nid oeddem yn gallu gofyn "y cwestiwn" - beth oedd prognosis mam? A oedd gobaith? Os nad oedd gobaith, beth ddylem ei wneud i roi cymorth iddi'n emosiynol ac yn gorfforol?

"Fel cyn-nyrs a darlithydd nyrsio, roedd mam yn gwybod cystal ag unrhyw un beth oedd yn digwydd iddi.

"Ond si诺r o fod, doedd ei natur famol garedig ddim wedi gadael iddi rannu'r wybodaeth dristaf 芒'r gweddill ohonom.

"Yr agosaf yr es i at godi'r pwnc o'i salwch terfynol oedd gofyn iddi unwaith: "Oes ofn arnat ti?" Y cyfan a ddywedodd oedd: "Weithiau rwy'n mynd i ddyfnderoedd tywyll iawn."

Cymorth

"Mae'n fy mhoeni i feddwl fod mam ar ei phen ei hun yn ei hofn.

"Er i ni ddangos iddi gymaint roeddem yn ei charu a rhoi pob cymorth ymarferol iddi yn ystod y misoedd olaf hynny, a ddylwn i fod wedi siarad 芒 hi'n fwy am beth oedd yn digwydd mewn gwirionedd? Sut roedd hi wir yn teimlo?"

Dywedodd Carolyn Hitt fod angen cymorth ar y rheiny o amgylch pobl sy'n byw gyda chanser hefyd - a llwyddodd i ddod o hyd i'r cymorth hwnnw gan Macmillan.

Y rhesymau mwyaf cyffredin dros ddiffyg cefnogaeth yw pellter daearyddol rhwng aelodau o'r teulu a ffrindiau, ymrwymiadau eraill, a/neu fod gan gleifion neb i droi ato.

Ar wah芒n i ymweliad gan weithiwr iechyd proffesiynol, nid yw un o bob wyth (12%) o'r bobl sy'n byw gyda chanser, a gymerodd ran yn yr arolwg, wedi cael yr un ymweliad gan ffrind nac aelod o'r teulu ers dros chwe mis.

Mae Cymorth Canser Macmillan yn galw ar weithwyr iechyd proffesiynol i fabwysiadu'r argymhellion yn adroddiad Facing the Fight Alone.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol