大象传媒

Gobaith am gael cerddoriaeth yn 么l ar Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
logo EosFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydy 大象传媒 Radio Cymru ddim wedi defnyddio dros 30,000 o ganeuon ers dechrau Ionawr

Mae gobaith y bydd cerddoriaeth aelodau EOS yn cael ei chwarae ar Radio Cymru unwaith eto yn y dyfodol agos.

Mewn cyfarfod o'r asiantaeth hawliau yng Nghaernarfon nos Wener - yr ail gyfarfod yr wythnos hon yn dilyn un arall yng Nghaerdydd nos Fawrth - fe bleidleisiodd yr aelodau yn unfrydol o blaid rhoi caniat芒d i'r 大象传媒 ddefnyddio eu cerddoriaeth tra bod y tradoaethau rhwng y ddwy ochr yn parhau.

Mae'r 大象传媒 ac EOS wedi bod mewn anghydfod am daliadau hawlfraint i gerddorion Cymraeg am gael chwarae eu cerddoriaeth ar wasanaeth Radio Cymru.

Ers Ionawr 1 eleni, nid oes gan y 大象传媒 hawl i ddefnyddio cerddoriaeth dros 300 o artistiaid Cymraeg - cyfanswm o rhyw 30,000 o ganeuon.

Mae pleidlais cyfarfodydd yr wythnos hon nawr yn rhoi mandad i gyfreithiwr EOS i gysylltu gyda'r 大象传媒 i wneud y cynnig.

Dywedodd Dafydd Roberts, aelod o fwrdd EOS, ei fod "yn gobeithio y byddai'r gerddoriaeth yn cael ei defnyddio ar Radio Cymru yn y dyfodol agos".

Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd y 大象传媒 y byddai'n mynd 芒'r mater i dribiwnlys hawlfraint.

Er hynny roedd cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru, Rhodri Talfan Davies, yn dweud ei fod yn obeithiol bod modd cyrraedd cytundeb rhwng y ddwy er bod y bwlch rhwng y ddau gorff "yn sylweddol", a hynny heb fynd i'r tribiwnlys.

Dywedodd llefarydd ar ran y gorfforaeth:"ae hyn yn ymddangos fel datblygiad positif iawn ond nid ydym wedi dod i gytundeb ar y mater hwn eto.

"Tan hynny, nid ydym mewn sefyllfa i wneud sylw pellach heblaw am ddweud ein bod yn parhau i flaenoriaethu dod i gytundeb sy'n deg a sicrhau bod cerddoriaeth Gymraeg aelodau Eos yn dychwelyd i Radio Cymru yn barhaol."