Cynllun i reoli erydu arfordirol Dinas Dinlle
- Cyhoeddwyd
Mae Dinas Dinlle yn gyrchfan boblogaidd i bobl leol yn ogystal 芒 miloedd sy'n ymweld ag ardal Caernarfon bob blwyddyn.
Ond mae 'na bryder fod yr elfennau yn dinistrio'r traeth yno.
Mae lle i gredu bod y m么r wedi achosi mwy o ddifrod i'r arfordir ers i amddiffynfeydd llifogydd gael eu codi yno bron i 20 mlynedd yn 么l.
Nawr mae'r Asiantaeth yn ceisio mynd i'r afael 芒'r sefyllfa a bydd cynlluniau yn cael eu harddangos yno ddydd Mercher er mwyn i bobl leol gael ymateb.
Mae'r cynigion yn cynnwys cynllun newydd i ail ffurfio rhan o'r traeth graean m芒n presennol a symud rhan o'r llwybr arfordirol, sy'n cael ei erydu'n raddol.
Mae'r Asiantaeth hefyd yn bwriadu symud y cerrig mawr o'r traeth a gosod graean m芒n naturiol yn eu lle i'w gwneud yn haws i bobl fwynhau'r traeth.
Yn 1994, cafodd yr amddiffyniad arfordirol ei godi i warchod yr ardal rhag llifogydd o'r m么r.
Ond mae'r amddiffyniad wedi golygu fod y graean m芒n naturiol yn symud llai ac mae hynny wedi arwain at fwy o erydu.
Drwy adfer cyflenwad y graean m芒n ac ail ffurfio'r traeth, mae'r Asiantaeth yn gobeithio gallu atal rhagor o erydu.
Bydd pobl yn gallu clywed am y cynigion newydd, archwilio'r darluniau o sut allai'r cynllun edrych, gofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau i staff yr Asiantaeth yn y cyfarfod.
'Cywiro'r anghydbwysedd'
Dywedodd David Edwell, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: "Mae erydu arfordirol yn broses naturiol, ond yn Ninas Dinlle mae'n ymddangos fod yr amddiffyniad arfordirol wedi amharu ar hynny ac rydym angen cywiro'r anghydbwysedd.
"Bydd y cynlluniau newydd rydym yn eu cynnig o gymorth i sicrhau na fydd rhagor o erydu ar yr ardal, ac, yr un pryd, bydd Llwybr Arfordir Cymru a'r twristiaeth lleol y mae'r ardal yn ddibynnol arno yn cael eu diogelu."
Y disgwyl yw y bydd y gwaith ar y cynllun yn dechrau yn yr Hydref a bydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cynigion yn unol 芒 Chynllun Rheoli Traethlin presennol yr ardal.
Cyngor Gwynedd sydd biau'r Cynllun Rheoli Traethlin a'i ddiben yw amddiffyn yr arfordir o flaen y pentref a gweithio gyda'r prosesau naturiol mewn mannau eraill.
Mae'r sesiwn galw i mewn yng nghaffi Bwyty Lleu, Dinas Dinlle, ddydd Mercher rhwng 2pm a 7.30pm a bydd cyflwyniad am y cynigion am 6pm.