大象传媒

Awyr dywyll Bannau Brycheiniog yn serennu

  • Cyhoeddwyd
Noson serennog ym Mannau BrycheiniogFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bannau Brycheiniog yw un o鈥檙 llefydd gorau i fwynhau鈥檙 s锚r ym Mhrydain

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cael statws awyr dywyll sy'n gydnabyddiaeth ryngwladol ar gyfer ardaloedd sy'n nodedig am ansawdd eu nosweithiau serennog.

Dim ond pedwar lleoliad arall ledled y byd sydd wedi derbyn yr anrhydedd yma gan y Gymdeithas Awyr Dywyll yn America.

Mae'r gymdeithas yn hyrwyddo lleoliadau gydag amgylchfyd nosol eithriadol sydd wedi ei hamddiffyn ar gyfer gwyddoniaeth, natur, addysg, diwylliant a mwynhad y cyhoedd.

Cychwynnodd Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar y gwaith o baratoi'r ardal ar gyfer y cais i fod yn ardal awyr dywyll swyddogol yn 2011.

Aeth trydanwyr a seryddwyr ati i archwilio i effaith llygredd golau trydanol yn y parc ac ansawdd y tywyllwch yno.

Gofynnwyd i drigolion y parc cymryd camau megis anelu goleuadau allanol i lawr yn hytrach nac i fyny er mwyn lleihau llygredd golau.

Cynhaliwyd parti s锚r yn Nhal-y-bont ar Wysg a chytunodd pawb yn y gymuned i ddiffodd eu goleuadau am y noson.

Dywedodd Martin Morgan-Taylor, aelod o fwrdd y Gymdeithas Awyr Dywyll Rhyngwladol ac un o bwyllgorau Cymdeithas Seryddol Prydain:

"Yn raddol, rydym yn colli'r nos i lygredd goleuni, sy'n erydu ein cyfle i edrych ar yr awyr gyda'r nos. Mae llai a llai o bobl felly yn gallu gweld y Llwybr Llaethog o'u gerddi.

"Nid colled esthetaidd yn unig yw hyn, ond mae o'n golled i'n diwylliant, ac i'r holl blant allai fod wedi tyfu'n wyddonwyr pe bai eu diddordeb wedi cael ei sbarduno ar 么l cael y cyfle i fwynhau edrych ar y s锚r gyda'r nos.

"Er nad ydym yn annog diffodd goleuadau, mae'n bosib gwella'r math o oleuadau sydd gennym yn ein trefi a phentrefi.

"Ond mewn gwirionedd, ceir y golygfeydd gorau o'r awyr mewn ardaloedd fel Bannau Brycheiniog sydd wedi gweithio'n galed i wella'r awyr gyda'r nos er mwyn i bawb gael ei mwynhau."

Mae'r goleuni o s锚r a galaethau yn cymryd miloedd, os nad miliynau o flynyddoedd i gyrraedd y ddaear. Nod yr ymgyrch i amddiffyn awyr dywyll yw sicrhau nad ydym yn colli'r cyfle i weld y goleuni yma yn eiliadau olaf ei siwrne.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae鈥檙 Parc Cenedlaethol yn gobeithio y bydd y statws newydd yma yn denu mwy o dwristiaid i鈥檙 ardal

Dywedodd Ruth Coulthard, swyddog datblygu ariannol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, "Rydw i'n falch iawn bod yr anrhydedd hon yn cydnabod pwysigrwydd rhyngwladol ein hawyr dywyll yma ym Mharc Bannau Brycheiniog.

"Mae hyn yn ein gosod ar frig rhestr y lleoliadau ym Mhrydain i ymweld 芒 nhw er mwyn mwynhau edrych ar y s锚r.

"Rydym wir wedi mwynhau gweithio gyda chymunedau a thrigolion i ddysgu mwy am awyr y nos, ac yn edrych ymlaen at wneud ragor o hyn trwy raglenni addysg a digwyddiadau i ddathlu'r dyfarniad.

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi derbyn cymorth gan Brifysgol Morgannwg, Awyr Dywyll Cymru ac Ymgyrch Ddiogelu Cymru Wledig i sicrhau'r statws newydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol