Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Datganoli plismona: Ymateb cymysg
Mae yna wahaniaethau barn ymhlith comisiynwyr heddlu a throsedd Cymru ynghylch yr angen i ddatganoli pwerau dros blismona.
Ddydd Llun, amlinellodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones dystiolaeth ei lywodraeth i'r comisiwn sy'n ystyried adolygu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Roedd datganiad Llywodraeth Cymru ar gyfer Comisiwn Silk yn cynnwys galwad i ddatganoli pwerau dros blismona.
Mae comisiynydd heddlu'r de, Alun Michael, a chomisiynydd heddlu'r gogledd, Winston Roddick QC, ill dau wedi cefnogi'r awgrym.
Dywedodd Winston Roddick "Y cwestiwn allweddol yw a ydi hi'n fwy tebygol neu'n llai tebygol i'n galluogi ni i weithredu ar ein dyletswydd bennaf, sef darparu gwasanaethau heddlu effeithiol a lleihau troseddu.
"Fy marn i yw nad oes yna dystiolaeth, neu ychydig iawn o dystiolaeth i awgrymu na fyddai'n ein galluogi ni i weithredu ar y ddyletswydd hanfodol hon, ac mae yna lawer o dystiolaeth sy'n dangos y byddai'n ein galluogi ni i fod yn fwy effeithiol wrth gyflawni'r ddyletswydd benodol honno."
'Cronni grym'
Ond dywedodd comisiynydd heddlu Dyfed Powys, Christopher Salmon, bod angen cael gwared ar raniadau yn hytrach nac ychwanegu atynt, ac nad oedd yna alw am newid.
"Mae hyn yn ymwneud yn fwy 芒 dymuniad gan wleidyddion ym mae Caerdydd i gronni grym nac ydyw ynghylch yr hyn y mae pobl wir ei angen," meddai.
Dywedodd llefarydd y blaid Lafur ar blismona, David Hanson AS, fod y blaid yn cynnal adolygiad polisi ar gyfer yr etholiad nesaf ar hyn o bryd:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais i ddatganoli gael ei ystyried, fe fyddwn ni'n edrych ar hynny, ond mae yna rai materion cymhleth ynghlwm 芒 hyn, yn ymwneud 芒 throseddu difrifol trefnedig, gwrthderfysgaeth, y gyfundrefn gyfreithiol, cyfiawnder, y gwasanaeth prawf, sydd angen cael eu hystyried mewn manylder mawr cyn y gellid ystyried cymryd cam mor fawr.