Darpariaeth band eang cyflym ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Bangor fydd yr ardal gyntaf o Gymru i gael gwasanaeth band eang cyflym.
Mae'r cynllun i uwchraddio cyfnewidfeydd a chabinetau ychwanegol ar draws y wlad yn dod wedi buddsoddiad sylweddol o dros 拢50 miliwn gan Lywodraeth San Steffan.
Mae'r uwchraddio yn rhan o gynllun Cyflymu Cymru.
Fe fydd y cabinet band eang ffibr cyflym cyntaf yn cael ei ddadorchuddio ym Mangor ddydd Gwener.
Bwriad y ddarpariaeth yw cynnig hwb economaidd drwy weddnewid bywydau gwaith a hamdden pobl a hwyluso gwaith busnesau.
3,000 o gabinetau
Ardaloedd eraill fydd yn elwa hefyd o'r ddarpariaeth newydd ydi Caernarfon, Dolgellau, Glyn Ebwy, Porthaethwy, Porthmadog, Pwllheli a Thredegar.
Fe fydd siroedd Conwy, Wrecsam, Mynwy, Torfaen, Caerdydd, Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro yn dechrau cael y ddarpariaeth yn 2014/2015 ar 么l gweddill siroedd Cymru yn 2013/2014.
Bydd peirianwyr yn gosod 17,500 cilomedr o geblau ffibr optig ac yn gosod 3,000 o gabinetau ar hyd strydoedd Cymru.
Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog Busnes, Cymru wrth ddadorchuddio'r cabinet: "Mae heddiw yn garreg filltir bwysig wrth i ni gadw'n gair a sicrhau bod pob eiddo yn cael mynediad at fand eang y genhedlaeth nesaf.
"Bydd Cyflymu Cymru yn trawsffurfio tirwedd band eang yng Nghymru, gan ei gwneud yn un o'r gwledydd sydd wedi ei chysylltu fwyaf o blith gwledydd Ewrop.
"Mae band eang cyflym yn hanfodol i sicrhau bod eiddo preswyl yn gallu manteisio ar y gwasanaethau a'r cyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan dechnoleg ddigidol.
"Mae manteisio ar fand eang y genhedlaeth nesaf yn hollbwysig i fusnesau ledled Cymru hefyd.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos ymrwymiad i gefnogi economi Cymru ac yn dangos ein bod yn buddsoddi yn yr isadeiledd sydd ei angen ar yr economi iddi fynd o nerth i nerth."
"Mae hyn yn cynrychioli cyfnod newydd i wasanaeth band eang cyflym yng Nghymru," meddai Ed Vaizey, Gweinidog Cyfathrebu Llywodraeth San Steffan.
"Mae Llywodraeth San Steffan wedi buddsoddi 拢57 miliwn yn y prosiect a fydd yn darparu band eang ffibr cyflym i 96% o fusnesau a chartrefi Cymru erbyn diwedd 2015.
"Fe fydd y prosiect hefyd yn creu tua 2,500 o swyddi llawn amser."